Mae gan Amgueddfa Wrecsam ddau dram hanesyddol, ac mae’r amser wedi cyrraedd i benderfynu beth yw’r dyfodol ar eu cyfer.
Nos Iau, 31 Mawrth rhwng 7pm a 8.30pm, byddwn yn cynnal seminar trwy gyfrwng Zoom er mwyn i chi gael cyfle i ddysgu mwy am y tramiau a’r gwaith y gellir ei wneud.Os hoffech gymryd rhan, cofrestrwch yma. Byddwn hefyd yn gofyn i chi lenwi ein holiadur i adael i ni wybod beth ydych chi’n credu y dylem ni wneud gyda nhw.
Y tramiau yma yw’r unig rai sydd dal i fodoli o fflyd Wrecsam o 10 tram a brynwyd gan Gwmni Brush Electrical Engineering. Cawsant eu hadeiladu yn 1903, gan redeg rhwng canol tref Wrecsam a Rhosllanerchrugog tan 1927, pan gawsant eu disodli gan fysiau a phan werthwyd y fflyd.
Y diweddaraf am y rhaglen frechu rhag Covid-19 ar draws Wrecsam a Gogledd Cymru
Mae’r tramiau’n cael eu cadw mewn storfa agored yng Nglofa’r Bers. Maen nhw mewn cyflwr gwael iawn, felly mae gwasanaeth yr Amgueddfa wedi penodi ymgynghorwyr i roi cyngor ynglŷn â’u cadw nhw at y dyfodol.
Rhai o’r dewisiadau posibl ydi:
- Gwneud dim
- Rhoi’r tramiau i amgueddfa tramiau arbenigol
- Eu hadfer i’w hymddangosiad gwreiddiol fel tramiau gweithredol ar gyfer arddangosfa sefydlog dan do yn yr amgueddfa neu mewn lleoliad arall
- Eu hadfer a’u defnyddio fel seddi ar gyfer y caffi, neu ofod arddangos o fewn y siop
- Eu hadfer i fod yn weithredol eto
- Eu hadfer fel bythynnod gwyliau i’w rhentu
Gallwch ddarllen mwy am y prosiect a’r dewisiadau posibl mewn dogfen sydd wedi’i llunio gan yr amgueddfa ac sydd ar gael yn rhan o’r arolwg.
Cyllidwyd y prosiect hwn drwy Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.
CANFOD Y FFEITHIAU