Mae Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth a FOCUS Wales yn cyhoeddi rhifyn cyntaf gŵyl archwilio clyweledol unigryw – Trawsnewid : Transform – a gynhelir yn Aberystwyth, ar arfordir gorllewinol Cymru, ar 2 a 3 Chwefror 2024.
Bellach 50 mlynedd ers ei sefydlu, mae Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth, y lleoliad a fydd yn gartref i Trawsnewid : Transform, yn adeilad eiconig, yn edrych dros y dref brifysgol glan y môr Fictoraidd hardd. Mae pensaernïaeth yr adeilad a’i amgylchoedd unigryw yn rhoiei hun yn naturiol i’r digwyddiad, a fydd yn cyfuno’r gorau mewn cerddoriaeth newydd, gyda delweddau, ac iaith.
Mae Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth a FOCUS Wales wedi gwahodd detholiad o artistiaid mwyaf blaenllaw Cymru i berfformio yn y rhifyn cyntaf hwn o’r ŵyl, i greu profiadau clyweledol unigryw, a fydd yn arddangos y lleoliad, y rhanbarth, ac wrth gwrs yr artistiaid, mewn lleoliad arbennig. Mae tîm yr ŵyl yn gweithio gydag artistiaid a hyrwyddwyr lleol ar draws y rhanbarth, gan greu cyfle newydd i bobl greadigol ddatblygu eu gwaith trwy gydweithio â’r ganolfan gelfyddydau a FOCUS Wales ar y digwyddiad arbennig hwn.
Yn arwain yr ŵyl mae Gwenno, a enwebwyd am Wobr Mercury, ac un o gerddorion amlycaf Cymru, a phrif leisydd y Super Furry Animals, Gruff Rhys. Yn ogystal, mae’r rhaglen yn amlygu’r ystod eang o gerddoriaeth o safon uchel sy’n dod allan o Gymru ar draws sawl genre, a bydd yn cynnwys Adwaith, Gallops, Cerys Hafana, Sage Todz, HMS Morris, Skunkadelic, Eadyth, Ynys, The Family Battenberg, Worldcub, a llawer mwy.
Dywedodd Dirprwy Gyfarwyddwr Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth, Louise Amery “Rydym yn falch iawn o weithio gyda’n ffrindiau yn FOCUS Wales i gyflwyno gŵyl Trawsnewid gyntaf un mis Chwefror 2024. Rydym yn edrych ymlaen at wledd go iawn i’r llygaid a’r clyw dros y penwythnos wrth i griw anhygoel o gerddorion ac artistiaid o bob rhan o Gymru ymgynnull yn Aberystwyth i ‘feddiannu’ Canolfan y Celfyddydau. Mae’n mynd i fod yn wych!”
Bydd tocynnau’r ŵyl ar gyfer Trawsnewid : Transform ar gael i’w prynu o ddydd Mercher 16eg Awst drwy www.aberystwythartscentre.co.uk