Os ydych chi’n ofalwr maeth ar gyfer Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, byddwch chi bellach yn gallu cael gostyngiad o 75% yn eich bil treth gyngor.
Nod y fenter newydd yw annog darpar ofalwyr maeth sy’n byw yn ardal Wrecsam i wneud cais gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn hytrach na’r tîm maethu. Mae’r polisi hwn hefyd yn gwneud bod yn ofalwr maeth i Gyngor Wrecsam yn fwy deniadol i ddarpar ofalwyr maeth a bydd yn sicrhau bod plant lleol yn cael eu cadw yn ardal Wrecsam, sy’n bwysig iawn i synnwyr o hunaniaeth llawer o blant, gan mai yn Wrecsam y mae eu cartref a’u teulu. Mae hefyd yn sicrhau parhad o ran addysg, iechyd a’r gymuned.
A fydda i’n gymwys?
Byddwch chi’n gymwys os
- Rydych wedi eich cymeradwyo i fod yn ofalwr maeth drwy banel maethu cyngor Wrecsam
- Rydych wedi darparu lleoliad maethu ar gyfer plentyn neu berson ifanc yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf
- Rydych wedi cynnig gwasanaeth maethu generig neu garennydd i blentyn neu berson ifanc
Bydd pob gofalwr maeth cyfredol sy’n byw yn Wrecsam yn cael bil diwygiedig, a’r gostyngiad o 75% wedi’i roi.
Os ydych chi’n byw y tu allan i Fwrdeistref Sirol Wrecsam mae’n rhaid i chi anfon copi o’ch hysbysiad galw treth gyngor a bydd y tîm yn gallu prosesu gostyngiad o 75% y byddwch chi wedyn yn derbyn y taliad cyfatebol am hyn.
“Mae angen i ni recriwtio mwy o ofalwyr maeth”
Meddai’r Cynghorydd Andrew Atkinson, Aelod Arweiniol Pobl Ifanc, “Mae angen i ni recriwtio mwy o ofalwyr maeth ac mae hyn yn ffordd wych o wneud hynny. Mae’n gwneud y pecyn yn fwy delfrydol i fod yn ofalwr maeth ar gyfer yr awdurdod lleol. Rwy’n gobeithio y bydd yn gwneud i bobl edrych ar y cyngor yn hytrach nag asiantaeth breifat, a sylweddoli’r buddiannau eraill y mae’r cyngor yn eu cynnig hefyd. Y nod yw cadw plant Wrecsam yn Wrecsam, sy’n bwysig iawn. “
Bydd y polisi newydd hwn yn cynorthwyo gyda recriwtio a chadw gofalwyr maeth, a bydd yn lleihau nifer y plant sy’n cael eu lleoli gydag asiantaethau maethu annibynnol y tu allan i’r fwrdeistref sirol. Bydd hefyd yn gwella’r canlyniadau ar gyfer plant sy’n derbyn gofal ac yn lleihau’r goblygiadau ariannol a’r adnoddau o ran plant yn cael eu rhoi mewn darpariaeth allanol a lleoliadau ‘y tu allan i’r fwrdeistref’.
Cysylltwch â ni..
I gael mwy o wybodaeth am sut i ddod yn ofalwr maeth ar gyfer Cyngor Wrecsam, cysylltwch â’r tîm maethu:
Os hoffech ragor o wybodaeth am faethu, cysylltwch â Gwasanaeth Maethu Wrecsam a gofynnwch am gael siarad â’r Swyddog Recriwtio : 01978295316 neu maethu@wrexham.gov.uk
Sut i gael prawf os oes gennych symptomau Coronafirws
YMGEISIWCH RŴAN