Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Trigolion Wrecsam yn derbyn galwadau ffôn am insiwleiddiad atigau…ai twyll ‘di hyn?
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Trigolion Wrecsam yn derbyn galwadau ffôn am insiwleiddiad atigau…ai twyll ‘di hyn?
Arall

Trigolion Wrecsam yn derbyn galwadau ffôn am insiwleiddiad atigau…ai twyll ‘di hyn?

Diweddarwyd diwethaf: Mawrth 19, 2020 9:01 am
Rhannu
Darllen 3 funud
Wrexham residents receive loft insulation phone calls…is it a scam
RHANNU

Mae nifer o drigolion pryderus Wrecsam wedi rhoi gwybod i ni eu bod nhw wedi derbyn galwadau ffôn anarferol gan bobl yn honni eu bod yn gweithio i’r “Llywodraeth Ganolog” neu’r “Cyngor”. Dywedodd y galwr bod insiwleiddiad atig y preswylwyr wedi’i ddifrodi o bosibl oherwydd cyddwysiad, ac roedd arno eisiau trefnu i syrfëwr ddod i edrych ar bethau.

Cynnwys
  • Ein cyngor
  • Mwy o dwyll yn yr ardal

Mae Safonau Masnach Wrecsam yn credu bod hyn yn ymgais i fynd i mewn i eiddo i osod deunydd insiwleiddio newydd nad oes ei angen. Os ydi inswleiddiad eich atig wedi’i osod yn anghywir fe all greu cyddwysiad, ond dydi hynny ddim yn digwydd bob tro.

PEIDIWCH Â GADAEL I DWYLLWYR EICH SGAMIO! COFRESTRWCH I GAEL CYNGOR A RHYBUDDION AR SGAMIAU YN EICH ARDAL CHI

Ein cyngor

Dydi galw yn ddigroeso ddim yn arfer busnes da iawn. Mae Safonau Masnach yn cynghori unrhyw un sy’n derbyn galwadau o’r fath i gymryd gofal, meddwl a ‘take five’ cyn ymateb neu gytuno i unrhyw beth.

Rydym ni hefyd yn eich cynghori i beidio â choelio popeth sy’n cael ei ddweud wrthoch chi na chytuno i ymweliad gan unrhyw un sy’n galw’n ddigroeso fel hyn. Peidiwch â rhoi’ch manylion personol ac os ydych chi’n amau unrhyw beth rhowch y ffôn i lawr a gwiriwch yr wybodaeth.

Os ydych chi’n meddwl bod yna broblem gydag insiwleiddiad eich atig, holwch aelod o’ch teulu neu ffrind am fasnachwr ag enw da. Anaml iawn y bydd masnachwr gonest yn galw’n ddigroeso, a bydd byth yn rhoi pwysau arnoch chi i wneud unrhyw waith.

Mwy o dwyll yn yr ardal

Rydym ni hefyd wedi derbyn mwy o adroddiadau am fathau eraill o dwyll:

• Negeseuon testun neu alwadau ffôn gan bobl yn cynnig ad-daliadau Treth y Cyngor
• Galwadau gan “Gyllid a Thollau EM” yn gofyn am daliadau ac yn bygwth mynd â chi i’r llys
• Galwadau gan bobl yn dweud eu bod yn gweithio i Amazon Prime
• Pobl yn ceisio mynd i mewn i’ch cyfrifiadur

Cofiwch, peidiwch byth â rhoi manylion personol na manylion eich banc/cerdyn banc i unrhyw un sy’n galw’n ddigroeso.

Os hoffech chi gyngor am fathau gwahanol o dwyll neu os oes arnoch chi eisiau rhoi gwybod am dwyll, cysylltwch â Gwasanaeth Defnyddwyr Cyngor ar Bopeth ar 0808 223 1133.

Cadwch yn ddiogel rhag twyllwyr gyda’n rhybuddion!

Rhannu
Erthygl flaenorol Covid 19 Covid-19 (Corofeirws Newydd) – Nodyn Briffio’r Cyhoedd, 18.3.20
Erthygl nesaf GWYLIWCH: Coronafeirws - Diogelu eich hun ac eraill GWYLIWCH: Coronafeirws – Diogelu eich hun ac eraill

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.
Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.
Digwyddiadau Pobl a lle
Medi 2, 2026
Yorke Street
Ydych chi’n gyrru i ganol dinas Wrecsam? Parciwch yn gyfrifol a dilynwch reolau traffig o amgylch y Stryd Fawr
Arall Pobl a lle
Medi 1, 2026
Blue emergency services light
Codi baner 999 i gefnogi Diwrnod y Gwasanaethau Brys
Arall Pobl a lle
Medi 1, 2026
Caffi hynaf Wrecsam wedi'i adnewyddu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol
Caffi hynaf Wrecsam wedi’i adnewyddu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol
Pobl a lle
Medi 1, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Football park and ride
ArallPobl a lle

Wrecsam v Dinas Birmingham – teithio fforddiadwy a rhwydd

Awst 28, 2026
Mayor at the Welsh Blood Service donation clinic
ArallPobl a lle

Maer yn rhoi gwaed i gefnogi ymgyrch rhoi

Awst 26, 2026
Red Ensign Flag
ArallDigwyddiadauPobl a lle

Coffáu Diwrnod y Llynges Fasnachol trwy godi’r Lluman Coch

Awst 24, 2026
Canlyniadau TGAU 2026 - Llongyfarchiadau i'n holl ddysgwyr
ArallBusnes ac addysgPobl a lle

Canlyniadau TGAU 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl ddysgwyr

Awst 20, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English