Yn ystod tymor yr hydref, cynhaliwyd twrnameintiau pêl-droed ysgolion cynradd merched a chymysg, a drefnwyd gan staff Wrecsam Egnïol yng Nghlwb Pêl-droed Cefn Druids, i gyd-fynd â Chwpan y Byd FIFA 2022.
Yn gynharach y mis hwn bu i 24 tîm ysgol gymryd rhan mewn twrnamaint merched yn unig. Ar ôl gemau grŵp yna rowndiau cynderfynol, yr enillwyr oedd Acton Park yn curo Plas Coch ar goliau cosb mewn rownd derfynol hynod o agos.
Bydd Acton yn awr yn mynd ymlaen i gynrychioli Wrecsam yn y twrnamaint 5 Cynradd Cenedlaethol yng nghlwb pêl-droed y Drenewydd ym Mai 2023.
Yn ddiweddarach yn y mis cymerodd 32 o dimau ran mewn twrnamaint cymysg. Gyda nifer y timau oedd yn cystadlu, penderfynwyd cynnal gemau grŵp ar un diwrnod ar arddull Cwpan y Byd. Y fformat oedd pedwar grŵp gydag wyth tîm ym mhob un.
Bu i’r pedwar tîm gwaelod ym mhob grŵp gymhwyso i gymryd rhan yn y digwyddiad ‘Ewros’ sy’n digwydd ar 7 Mawrth. Bu i’r pedwar tîm uchaf ym mhob grŵp gymhwyso i gymryd rhan yn y digwyddiad ‘Cwpan y Byd’ ar 14 Mawrth ble fydd yr enillwyr yn cael eu dewis. Bydd y tîm buddugol hefyd yn mynd ymlaen i gynrychioli Wrecsam yn y twrnamaint 5 Cynradd ym Mai.
Gwahoddwyd bob ysgol a gofrestrodd i gymryd rhan mewn cystadleuaeth i ddathlu Cwpan y Byd. Anogwyd ysgolion i wneud baneri, crysau neu debyg ac i fod mor greadigol â phosib gyda’u creadigaethau.
Roedd rhai ymdrechion gwych, gyda Barkers Lane yn ennill cystadleuaeth y merched a Wat’s Dyke yn ennill cystadleuaeth y bechgyn.
Dywedodd y Cynghorydd Phil Wynn, Aelod Arweiniol Addysg, “Roedd yn wych gweld cymaint o ddisgyblion yn mwynhau eu hunain gydag ymhell dros 400 o ddisgyblion yn cymryd rhan yn y ddau dwrnamaint sy’n dangos cryfder pêl-droed iau yn yr ardal. Mae nifer o’r chwaraewyr a oedd yn bresennol yn chwarae i dimau iau lleol.
Edrychwn ymlaen at y twrnameintiau cymysg ym mis Mawrth.
HAWLIWCH YR HYN SY’N DDYLEDUS I CHI