Unwaith eto’r haf yma bydd Tŷ Pawb yn arddangos y gorau o’r dalent artistig sy’n deillio o ysgolion celf y rhanbarth.
Estynnwyd gwahoddiad i artistiaid o ysgolion celf ar draws Gogledd Cymru a Gogledd Orllewin Lloegr arddangos eu gwaith yn Nascent Inclinations.
Y sefydliadau sy’n cydweithio â Thŷ Pawb ar yr arddangosfa yw Prifysgol Aberystwyth, Prifysgol Hope Lerpwl, Prifysgol John Moores Lerpwl, Prifysgol Caer a Phrifysgol Glyndŵr Wrecsam. Bydd pob un yn cael eu cynrychioli gan un artist neilltuol sy’n graddio.
I rai o’r artistiaid, Nascent Inclinations fydd eu profiad cyntaf o arddangos mewn galeri.
Cyfle gwych i dalent newydd
Dywedodd Cynghorydd Hugh Jones: “Mae Nascent Inclinationsyn dangos pwysigrwydd meithrin y dalent sy’n ymddangos yn ein rhanbarth. Dylem fod yn falch o’r safon gyson uchel o waith a gynhyrchir gan yr artistiaid hyn a gyda gobaith bydd yr arddangosfa hon yn nodi dechrau gyrfa hir a llwyddiannus iddyn nhw.”
Dywedodd yr Jo Marsh: “Mae gennym feddwl mawr o’r cyfle y mae Nascent Inclinations yn ei roi i’n graddedigion mewn Wrecsam. Wrth ddathlu’r gwaith rhagorol sy’n deillio o gyrsiau ar draws y rhanbarth, mae Tŷ Pawb yn atgyfnerthu ymrwymiad i artistiaid ar bob cam o’u gyrfa.”
Sut i weld yr arddangosfa
- Bydd Tueddiadau Eginol i’w gweld yn Tŷ Pawb rhwng Awst 21 – Medi 7.
- Oriau agor yr oriel: 10am-5pm, dydd Llun i ddydd Sadwrn (ar gau ar ddydd Sul).
Cefnogir yr arddangosfa Nascent Inclinations gydag arian y Loteri Genedlaethol a ddyfernir drwy Gyngor Celfyddydau Cymru a Llywodraeth Cymru.