Dydd Sadwrn yma, mae Ffair Recordiau Tŷ Pawb yn dychwelyd, 10am-4pm.
Dewch draw i archwilio trysorfa o recordiau o 30+ o stondinau sy’n cynnwys gwerthwyr recordiau gorau’r DU a fydd yn gwerthu finyl o bob cyfnod a genre. Dewch i ddod o hyd i fargen neu’r record brin honno rydych chi wedi bod ar ei hôl.
Drwy gydol y dydd, bydd setiau DJ a cherddoriaeth fyw hefyd, bydd y bar ar agor a bydd bwyd gwych ar gael o’n cwrt bwyd.