Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Dedfryd o garchar i döwr twyllodrus
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Dedfryd o garchar i döwr twyllodrus
Y cyngor

Dedfryd o garchar i döwr twyllodrus

Diweddarwyd diwethaf: Hydref 31, 2024 12:31 pm
Rhannu
Darllen 5 funud
Estyn
RHANNU

Mae töwr twyllodrus wedi cael dedfryd o ddwy flynedd a hanner o garchar am dwyllo perchennog cartref diamddiffyn yn Wrecsam.

Plediodd John Price, sy’n byw mewn maes carafanau ger Croesoswallt, yn euog i bob cyhuddiad o dwyll pan aeth o flaen y llys ar 25 Hydref.

Roedd Mr Price wedi perswadio’r unigolyn bod angen gwneud gwaith helaeth ar do ei gartref a chodwyd cyfanswm o £32,500 arno. Bu swyddogion Safonau Masnach Cyngor Wrecsam yn ymchwilio a datgelwyd nad oedd llawer yn bod ar y to a bod y gwaith a wnaed gan Mr Price o safon isel a bod y pris yn rhy uchel o lawer.

Cymerodd Mr Price daliadau arian parod gan y dioddefwr ar bedwar achlysur gwahanol, gan yrru’r unigolyn i’r banc i godi’r arian parod bob tro. Ar y pumed tro, cododd amheuon staff y banc a chysylltwyd â’r Heddlu.

Wrth ddedfrydu Mr Price, dywedodd y Barnwr, Niclas Parry, fod Mr Price yn anonest dros ben ac mae’n rhaid ei fod wedi dychryn y dioddefwr er mwyn gwneud iddo fynd i’r banc a thalu’r holl arian iddo. Disgrifiodd y gwaith fel diwerth; twyll oedd y cyfan. Dywedodd fod gweithwyr yr awdurdod lleol wedi gwneud oriau o waith diwyd, ar gost i’r cyhoedd, ac nad oedd unrhyw obaith o gael unrhyw ran o’r costau yn ôl.

Cafodd gwraig Mr Price, Jamie Nadine Price, ei dedfrydu hefyd am drin yr arian a gafodd ei gŵr. Rhoddwyd dedfryd o 12 mis iddi, wedi’i gohirio am 18 mis. Gorchmynnodd y barnwr iddi gwblhau 120 awr o waith di-dâl hefyd a dychwelyd i’r llys yn rheolaidd i roi diweddariad am ei gwaith di-dâl. Eglurodd y Barnwr Parry y byddai’n mynd i’r carchar pe na bai hi’n cwblhau’r gwaith.

Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd, “Mae’r droseddoldeb a’r creulondeb a ddatgelwyd gan yr achos hwn yn aruthrol a dim ond o ganlyniad i’r ymchwiliad trylwyr gan Wasanaeth Gwarchod y Cyhoedd y Cyngor y cafwyd cyfiawnder. Rwy’n wirioneddol obeithio y bydd hyn yn rhybudd i bobl sy’n ceisio camfanteisio ar bobl ddiamddiffyn yn ein cymunedau. Ni fyddwn yn oedi wrth i ni ymchwilio i achosion o’r fath a dod â throseddwyr o flaen eu gwell am droseddau o’r fath.”

Dywedodd Roger Mapleson, Arweinydd Safonau Masnach a Thrwyddedu, “Roedd hwn yn achos a oedd yn peri pryder mawr, wrth i breswylydd diamddiffyn gael ei orfodi i dalu swm enfawr o arian am waith diwerth a diangen ar ei gartref, ond mae’n rhoi boddhad gweld cyfiawnder a bod y llys yn cymryd y mater o ddifri. Yr hyn sy’n peri pryder yn yr achos hwn yw bod Price wedi mynd â’r unigolyn i’r banc i godi arian parod ar bum achlysur gwahanol ond dim ond ar y pumed tro y dechreuodd y banc amau bod rhywbeth o’i le, ond erbyn hynny, roedd £32,500 wedi cael ei dalu. Pe bai’r symiau anarferol o uchel wedi’u canfod yn gynharach, gallai’r golled fod wedi bod yn is o lawer. Mae’r bobl sy’n cyflawni’r math hwn o drosedd yn gweithredu’n amlwg yng nghanol ein cymunedau a byddwn i’n annog pawb i gadw golwg ar ran eu ffrindiau, teuluoedd a chymdogion, yn enwedig rhai sy’n fwy diamddiffyn.”

Os byddwch chi’n gweld neu’n clywed unrhyw beth amheus, cysylltwch â’r Heddlu ar 101 neu ffoniwch Cyngor ar Bopeth ar 0808 223 1133, neu’r llinell Gymraeg ar 0808 223 1144.

Os oes angen cyngor neu gymorth arnoch am waith sy’n cael ei wneud, ffoniwch Cyngor ar Bopeth ar 0808 223 1133 neu’r llinell Gymraeg ar 0808 223 1144.

Maethu Cymru Wrecsam – dod yn ofalwr maeth.

Rhannu
Erthygl flaenorol ty pawb Ffair Recordiau Tŷ Pawb yn dychwelyd
Erthygl nesaf Wrexham was awarded Gold and ‘City’ category winner at the Royal Horticultural Society’s Britain in Bloom 2024 awards. Gwobr Aur i Wrecsam yng nghystadleuaeth Prydain yn ei Blodau 2024

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mayor with Nightingale House Hospice team
Y Maer yn achub ar y cyfle ac yn mynd amdani gyda Monopoly newydd Wrecsam
Arall Fideo Pobl a lle
Medi 9, 2026
Guildhall ceremony room
Ystafell Seremonïau Neuadd y Dref ar ei newydd wedd
Arall Pobl a lle Y cyngor
Medi 9, 2026
Guildhall
Datganiad gan Gyngor Wrecsam: Dyfarniad uchel lys wedi’i sicrhau dros ddatblygiad anawdurdodedig yng Nghoed-poeth
Y cyngor
Medi 8, 2026
Mayor with the Registrar team
Ystafell seremoni Neuadd y Dref yn ailagor yn swyddogol ar ôl ei hadnewyddu
Arall Pobl a lle Y cyngor
Medi 4, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027
Busnes ac addysgY cyngor

Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027

Medi 4, 2026
BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop
Pobl a lleY cyngor

BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop

Medi 3, 2026
Social Prescribing and Community Wellness service
Pobl a lleY cyngor

Gwasanaeth Presgripsiynu Cymdeithasol a Lles Cymunedol i gefnogi cymunedau Wrecsam

Awst 28, 2026
Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu
Pobl a lleY cyngor

Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu

Awst 27, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English