Mae gofod celfyddydol a marchnad fywiog yn Wrecsam wedi cymryd cam arall tuag at gynaliadwyedd trwy osod paneli solar.
Bydd system ffotofoltäig newydd Tŷ Pawb yn helpu i leihau allyriadau carbon a chynhyrchu ynni glân yng nghanol y ddinas.
Mae’r gwaith wedi cael ei ariannu gan incwm o osodiadau solar eraill sy’n eiddo i’r Cyngor – a gynhyrchir trwy werthu ynni dros ben yn ôl i’r grid.
Mae system Tŷ Pawb yn cynnwys 63 o baneli solar gydag allbwn brig o 27kWp, sy’n gallu cynhyrchu bron i 25,000 kWh o drydan adnewyddadwy bob blwyddyn.
I roi hyn mewn persbectif, mae 25,000 kWh o ynni yn ddigon i:
- Bweru tegell 1.5L i ferwi tua 250,000 o weithiau.
- Darparu 2.5 miliwn o oriau o olau LED – sy’n cyfateb i gadw 285 o fylbiau golau LED (10W) yn rhedeg 24/7 am flwyddyn gyfan.
Mae hyn yn golygu y bydd cyfran sylweddol o anghenion ynni Tŷ Pawb bellach yn cael eu diwallu gan ynni solar ar y safle – gan leihau dibyniaeth ar y grid cenedlaethol a lleihau allyriadau carbon oddeutu 5,729kg y flwyddyn.
Wedi’i osod gan Rawson EV, cwblhawyd y prosiect mewn llai na dau ddiwrnod heb darfu o gwbl ar weithgareddau dyddiol yn y lleoliad prysur.
Dywedodd y Cynghorydd Huw Jones, Aelod Arweiniol Cyngor Wrecsam sydd â chyfrifoldeb am Tŷ Pawb: “Trwy gofleidio ynni adnewyddadwy, rydym nid yn unig yn lleihau costau gweithredol yr adeilad – rydym hefyd yn helpu i adeiladu dyfodol mwy cynaliadwy i Wrecsam.
“Rydym am i Tŷ Pawb fod yn hwb datgarboneiddio yng nghanol y ddinas a fydd yn ysbrydoli eraill, ac mae’r paneli solar yn gam pwysig tuag at hyn.”
Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Arweiniol y Cyngor sydd â chyfrifoldeb am ddatgarboneiddio: “Mae ymrwymiad Tŷ Pawb i gynaliadwyedd yn wych, ac mae’n cefnogi nodau amgylcheddol ehangach y Cyngor.
“Rydym wedi ymrwymo i leihau allyriadau carbon a gwella effeithlonrwydd ynni ar draws y fwrdeistref sirol, ac mae’r paneli solar hyn yn gam cadarnhaol arall tuag at leihau ôl troed carbon y ddinas.”