Mae llawer i’w ddathlu yn Wrecsam ar hyn o bryd wrth i gynlluniau ariannu uchelgeisiol ddechrau troi’n realiti.
Yr wythnos ddiwethaf fe gadarnhaodd Llywodraeth y DU ei ymrwymiad i Godi’r Gwastad yn y DU a dyfarnodd dros £13 miliwn i Wrecsam i dalu am welliannau ar gyfer ymwelwyr yn Safle Treftadaeth y Byd, gwelliannau oedd eu hangen yn fawr.
Dewch i weithio ym maes gofal cymdeithasol, er mwyn eich cymuned.
Bydd y cyllid yn cynyddu i dros £15 miliwn gyda chyfraniadau pellach gan bartneriaid a bydd yn arwain at greu amwynderau modern i ymwelwyr er mwyn darparu cyfleusterau fel toiledau hygyrch, cyfleusterau mam a’i phlentyn ac ystafelloedd gweddïo. Hefyd bydd gwelliannau o ran mynediad i’r safle i sicrhau ei fod yn hygyrch i bawb a bydd man awyr agored o ansawdd uchel yn cael ei greu a fydd yn hybu lles a’r profiad i ymwelwyr.
Yn dilyn y newyddion hwn daeth cadarnhad gan Lywodraeth y DU fod cais cyllido o dros £219,000 gan y Gronfa Adfywio Cymunedol ar gyfer dau brosiect wedi bod yn llwyddiannus. Bydd y cyntaf yn cael ei ddefnyddio i leihau eiddo gwag yng nghanol y dref.
Mae’r ail ar gyfer astudiaeth ddichonoldeb ar gyfer System Ynni Lleol Clyfar a arweinir gan Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru sy’n ceisio cefnogi datblygiad datrysiadau ynni arloesol.”
Mae prosiect Porth Wrecsam hefyd yn symud yn ei flaen ac mae eisoes wedi derbyn cyllid o £25 miliwn gan Lywodraeth Cymru ac rydym yn parhau yn ymroddedig i sicrhau’r cronfeydd sy’n weddill i gwblhau’r prosiect uchelgeisiol a phwysig hwn.
“Uchelgais fawr yn talu ar ei chanfed”
Dywedodd y Cynghorydd Mark Pritchard, Arweinydd y Cyngor, “Does dim amheuaeth fod ein huchelgais fawr ar gyfer Wrecsam yn dechrau talu ac mae’r ymrwymiad i Wrecsam gan Lywodraethau Cymru a’r DU yn dystiolaeth o hynny.
Rydym yn sicr ar y map fel arweinwyr rhanbarthol wrth i ni barhau i weithio gyda phartneriaid ar draws Gogledd Cymru a thros y ffin gyda Bwrdd Uchelgais Gogledd Cymru a Chynghrair Mersi a’r Ddyfrdwy.”
“Mae’r ffaith i ni gael ein rhestr hir fer Dinas Diwylliant 2025 hefyd yn newyddion calonogol iawn, yr unig ardal yng Nghymru i’w chynnwys ar y rhestr fer. Mae hyn eisoes wedi dod â chydnabyddiaeth i ni o bob cwr o’r DU sy’n dangos yr ymrwymiad sydd gennym i’n treftadaeth a’n diwylliant yn y gorffennol a’r presennol.
DOD O HYD I SWYDDI GOFALU LLEOL