Bydd uned brofi symudol yn agor yng nghymuned Johnstown, Wrecsam, i’w gwneud yn haws i bobl sy’n byw a gweithio yn yr ardal i gael prawf Covid-19.
Bydd y cyfleuster profi mynediad-rhwydd yn cynnig prawf llif unffordd cyflym yng Nghanolfan Gymunedol Johnstown, bob dydd Llun gan gychwyn ar 26 Gorffennaf.
Bydd y cyfleuster yn y maes parcio gyferbyn â’r ganolfan gymunedol, a bydd ar agor rhwng 9:30am a 5pm ar 26 Gorffennaf. Mae preswylwyr yn Johnstown, Rhosllanerchrugog, Rhiwabon a Penycae heb symptomau yn cael eu hannog i gael prawf yn yr uned (dylai unrhyw un sy’n dangos symptomau hunan-ynysu yn syth ac archebu prawf PCR).
Mae achosion wedi bod yn gymharol uchel yn yr ardaloedd hyn o’i gymharu â gweddill Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn yr wythnosau diwethaf, a gobeithir bydd darparu’r cyfleuster profi bob dydd Llun yn arafu unrhyw ledaeniad.
Nid yw tua un ym mhob tri o’r rhai sy’n dioddef o’r coronafeirws yn dangos symptomau, ond gallant ddal i heintio eraill, a chael prawf rheolaidd yw’r unig ffordd o wybod os oes gennych y feirws.
Os yw pobl yn profi’n bositif ac yn hunan-ynysu, mae’n helpu i atal lledaeniad y firws.
Mae’r gwaith yn cael ei gydlynu gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Cyngor Wrecsam ac Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru.
Mae gwneud apwyntiad i dderbyn brechlyn Covid-19 yn haws nag erioed o’r blaen.
TREFNWCH APWYNTIAD AR-LEIN