Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Adnewyddwch eich casgliadau gwastraff gardd ar-lein – mae’n hawdd ac yn gyfleus
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Adnewyddwch eich casgliadau gwastraff gardd ar-lein – mae’n hawdd ac yn gyfleus
Y cyngor

Adnewyddwch eich casgliadau gwastraff gardd ar-lein – mae’n hawdd ac yn gyfleus

Diweddarwyd diwethaf: Gorffennaf 23, 2021 2:11 pm
Rhannu
Darllen 5 funud
green bin
RHANNU

Hoffem atgoffa preswylwyr bod posib iddyn nhw ymweld â www.wrecsam.gov.uk/gwastraffgardd i dalu am eu casgliadau gwastraff gardd ar gyfer 2021/22. Dyma’r ffordd fwyaf hawdd a chyflym i dalu a gallwch wneud hynny ar amser sy’n gyfleus i chi.

Cynnwys
    • Mae Mae digon o amser dal i fod i adnewyddu
  • Talwch ar-lein ble yn bosibl
  • Sticeri newydd ar gyfer 2021/22
  • Ni dderbynnir taliadau arian parod na siec
  • Pryd mae gwasanaeth 2020/21 yn dod i ben?
  • Nid wyf eisiau adnewyddu’r gwasanaeth – a wnewch chi gael gwared ar fy min gwastraff gardd?
  • Beth allai ei wneud gyda fy ngwastraff gardd os nad ydw i eisiau talu am y gwasanaeth casglu?

Mae’r gost ar gyfer 2021/22 wedi ei rewi ar £25 y flwyddyn ar gyfer bin gwyrdd ac mae’r gwasanaeth yn para o ddydd Llun, 30 Awst 2021, tan ddydd Gwener, 2 Medi 2022.

Adnewyddwch eich casgliadau gwastraff gardd ar-lein – mae’n hawdd ac yn gyfleus

Mae Mae digon o amser dal i fod i adnewyddu

Dydi’r gwasanaeth newydd ddim yn dechrau tan ddiwedd Awst – mae yna dal ddigon o amser i adnewyddu, felly peidiwch â chyffroi! Os ydych wedi talu ar gyfer casgliad gwastraff gardd y llynedd, bydd eich bin gwyrdd yn parhau i gael ei gasglu tan ddiwedd mis Awst.

Ond pan fydd yn gyfleus gyda chi ewch i www.wrecsam.gov.uk/gwastraffgardd a dilyn y cyfarwyddiadau sy’n hawdd i’w deall i dalu os hoffech barhau gyda’r gwasanaeth hwn am y 12 mis nesaf.

Talwch ar-lein ble yn bosibl

Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Rydym yn falch ein bod wedi rhewi cost y gwasanaeth ar £25 fesul bin gwyrdd y flwyddyn, sy’n parhau yn llai na’r gost gan nifer o awdurdodau eraill yng Nghymru a Lloegr.”

Dywedodd Darren Williams, Prif Swyddog Amgylcheddol a Thechnegol: “Mae nawr yn bosib adnewyddu, a’r ffordd orau a chyfleus i dalu am y gwasanaeth yw ar-lein yn www.wrecsam.gov.uk/gwastraffgardd.”

Adnewyddwch eich casgliadau gwastraff gardd ar-lein – mae’n hawdd ac yn gyfleus

“Os nad oes modd i chi dalu ar-lein gallwch ffonio Gwasanaethau Stryd er mwyn gwneud taliad â cherdyn, ond mae’n debyg y bydd oedi wrth i’ch galwad gael ei ateb. Rydym yn argymell talu am y gwasanaeth ar-lein ble yn bosibl.”

DIWEDDARIAD: Mae ein llinellau ffôn yn parhau i fod yn hynod o brysur, felly rydych yn cael eich cynghorir i dalu ar www.wrecsam.gov.uk/gwastraffgardd i osgoi gorfod aros yn hir iawn. Mae talu ar-lein yn hawdd, sydyn a chyfleus.

Sticeri newydd ar gyfer 2021/22

Bydd pawb sy’n ymuno’n derbyn eu pecyn sticeri ym mis Awst cyn i’r gwasanaeth ddechrau ddiwedd y mis.

Bydd preswylwyr a fydd yn adnewyddu’r gwasanaeth yn derbyn sticer newydd. Bydd angen rhoi’r sticer yma mewn lle clir ar gaead y bin er mwyn sicrhau casgliadau o 30 Awst.

Gallwch ein helpu i sicrhau y byddwch yn derbyn eich sticer mewn pryd ar gyfer casgliad cyntaf 2021/22 trwy dalu am y gwasanaeth mewn da bryd.

Wedi adnewyddu eich casgliadau gwastraff gardd ar gyfer 2021/22 ond heb gael eich sticer newydd eto? Peidiwch â phoeni, mae’r rhain yn cael eu hanfon allan yn fuan a byddwch yn ei dderbyn erbyn diwedd Awst, mewn pryd ar gyfer y casgliad newydd: https://t.co/CcQYJqskIw pic.twitter.com/rX32teXjK6

— Cyngor Wrecsam (@cbswrecsam) July 22, 2021

Ni dderbynnir taliadau arian parod na siec

Y flwyddyn ddiwethaf, anfonodd sawl cwsmer arian parod neu siec atom ni, er mwyn ceisio talu am y gwasanaeth. Mae’n rhaid i ni bwysleisio nad oes modd i ni dderbyn y math yma o daliadau.

Pryd mae gwasanaeth 2020/21 yn dod i ben?

Fel yr ydych yn cofio, roedd oedi yn nyddiad cychwyn y gwasanaeth y llynedd oherwydd pandemig y coronafeirws ac felly estynnwyd y tanysgrifiadau tan 31 Awst, 2021.

Os ydych wedi cofrestru ar gyfer y gwasanaeth yma, ond ddim yn adnewyddu ar gyfer 2021/22 ni fyddwn yn casglu eich bin(iau) gwyrdd o 31 Awst.

Nid wyf eisiau adnewyddu’r gwasanaeth – a wnewch chi gael gwared ar fy min gwastraff gardd?

Gellir cael gwared ar unrhyw finiau gwastraff gardd diangen os gofynnwch chi. Gallwch wneud cais am gael gwared ar fin gwastraff gardd trwy ddefnyddio ein ffurflen ‘bin neu focsys newydd’.

Ar ôl gofyn am gael gwared â’r bin, gall gymryd nifer o wythnosau i’r bin gael ei gasglu. Yn y cyfamser, gwnewch yn siŵr bod eich bin yn parhau i fod yn wag, yn hygyrch, ond heb ei adael allan gan achosi rhwystr.

Efallai y byddai’n werth cadw gafael ar eich hen fin gwastraff gardd am y tro, oherwydd os ceir gwared ar eich bin gwastraff gardd a’ch bod chi’n newid eich meddwl yn y dyfodol, codir tâl am un newydd.

Beth allai ei wneud gyda fy ngwastraff gardd os nad ydw i eisiau talu am y gwasanaeth casglu?

Gallwch fynd â’ch gwastraff gardd i un o’n canolfannau ailgylchu gwastraff y cartref (yn rhad ac am ddim). Neu, fe allech gompostio’r gwastraff gardd gartref.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.wrecsam.gov.uk/gwastraffgardd

Adnewyddwch eich casgliadau gwastraff gardd ar-lein – mae’n hawdd ac yn gyfleus

 

Rhannu
Erthygl flaenorol Newid Hinsawdd Mae gennym gyfle cyffrous i rywun arwain ein cynlluniau ar gyfer Newid Hinsawdd a Lleihau Carbon.
Erthygl nesaf Covid-19 testing Uned profi symudol yn Johnstown bob dydd Llun – anogir preswylwyr lleol heb symptomau i gael prawf

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.
Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.
Digwyddiadau Pobl a lle
Medi 2, 2026
Yorke Street
Ydych chi’n gyrru i ganol dinas Wrecsam? Parciwch yn gyfrifol a dilynwch reolau traffig o amgylch y Stryd Fawr
Arall Pobl a lle
Medi 1, 2026
Blue emergency services light
Codi baner 999 i gefnogi Diwrnod y Gwasanaethau Brys
Arall Pobl a lle
Medi 1, 2026
Caffi hynaf Wrecsam wedi'i adnewyddu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol
Caffi hynaf Wrecsam wedi’i adnewyddu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol
Pobl a lle
Medi 1, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Social Prescribing and Community Wellness service
Pobl a lleY cyngor

Gwasanaeth Presgripsiynu Cymdeithasol a Lles Cymunedol i gefnogi cymunedau Wrecsam

Awst 28, 2026
Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu
Pobl a lleY cyngor

Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu

Awst 27, 2026
The Base – Cymorth ieuenctid yng nghymunedau Wrecsam
Y cyngor

The Base – Cymorth ieuenctid yng nghymunedau Wrecsam

Awst 25, 2026
Cyhoeddi dyddiad agor Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam
DigwyddiadauPobl a lleY cyngor

Cyhoeddi dyddiad agor Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam

Awst 25, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English