Recycling

Mae nifer o aelwydydd yn Wrecsam yn defnyddio ein Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref yn rheolaidd ac yn eu gweld yn ddibynadwy ac effeithlon, ond yn ddiweddar mae ychydig o achlysuron lle mae rhai pobl wedi cael eu gwrthod.

Fel arfer y rheswm dros hyn yw nad ydynt yn bodloni’r meini prawf megis yn byw yn Wrecsam neu’n cael gwared ar wastraff rhywun arall i wneud elw – “man in a van”.

Dewch i weithio ym maes gofal cymdeithasol, er mwyn eich cymuned.

Mae nifer o aelwydydd yn Wrecsam yn defnyddio ein Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref yn rheolaidd ac yn eu gweld yn ddibynadwy ac effeithlon, ond yn ddiweddar mae ychydig o achlysuron lle mae rhai pobl wedi cael eu gwrthod.

Fel arfer y rheswm dros hyn yw nad ydynt yn bodloni’r meini prawf megis yn byw yn Wrecsam neu’n cael gwared ar wastraff rhywun arall i wneud elw – “man in a van”.

Roeddem yn credu y byddai’n ddefnyddiol i atgoffa pawb o’r meini prawf i allu defnyddio’r safleoedd:

  • Dewch â gwastraff yr aelwyd yn unig gyda chi. Peidiwch â dod â gwastraff masnachol na gwastraff busnes gyda chi.
  • Dewch â phrawf gyda chi eich bod yn byw yn y fwrdeistref sirol (e.e. bil cyfleustodau gyda’ch cyfeiriad arno). Mae’r safleoedd hyn ar gyfer preswylwyr Wrecsam yn unig.
  • Byddwch yn amyneddgar os bydd rhaid i chi aros mewn ciw.
  • Caniateir trelar ym mhob un o’n safleoedd

Cofiwch os ydych yn talu rhywun i gael gwared â’ch gwastraff, gwiriwch fod ganddynt Drwydded Cario Gwastraff – gallwch wirio os ydynt wedi cofrestru yma.

Dywedodd y Cynghorydd David A. Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant “Mae defnydd da yn cael ei wneud o’n Canolfannau gan y mwyafrif o breswylwyr ac maent yn eu gwerthfawrogi. Yn anffodus, mae rhai yn cymryd mantais ac yn mynd â sbwriel pobl eraill am elw, ac unwaith y bydd hyn wedi’i gydnabod ar y safle, ni fyddent yn cael mynediad i’r safle eto.

“Gwiriwch bob amser os ydych yn talu rhywun i gael gwared â’ch sbwriel eu bod wedi cofrestru, neu fel arall gall y sbwriel gael ei dipio’n anghyfreithlon a gallwch gael cosb sylweddol os bydd y sbwriel yn cael ei olrhain yn ôl atoch.”

Gallwch ddarllen mwy am hynny yma:

Peidiwch â chael eich Twyllo gan Dipiwr Anghyfreithlon

Os ydych chi’n chwilio am yrfa newydd ac os hoffech chi helpu pobl yn eich cymuned, ystyriwch swydd gofal cymdeithasol.

DOD O HYD I SWYDDI GOFALU LLEOL