Bydd Simon O’Rourke, y cerflunydd iâ o fri, yn dychwelyd i Wrecsam ddydd Iau 5 Rhagfyr i greu llwybr cerfluniau iâ fel rhan o’r Farchnad Nadolig Fictoraidd.
Bydd y daith yn cychwyn yn Eglwys San Silyn am 5pm pan fydd Simon yn cerfio bloc iâ bychan cyn mynd i Stryt Henblas am 6pm i gerfio unwaith eto. Yno bydd hefyd yNadolig Fictoraiddhateb i geisio dyfalu beth fydd y cerflun ar ddiwedd y daith, a fydd yn mynd â chi i’r amgueddfa ar Stryt y Rhaglaw.
DERBYNIWCH Y WYBODAETH DDIWEDDARAF – YMAELODWCH I GAEL EIN PRIF STRAEON.
Ar ôl cyrraedd yr amgueddfa bydd Simon yn rhoi ei fedrau cerfio ar waith ar ddarn mawr o iâ a fydd yn cael ei oleuo – cyfle da am lun!
Yn yr amgueddfa cewch hefyd gyfle i flasu rhai o ddanteithion Nadoligaidd ac am bob diod gynnes rydych chi’n ei phrynu fe gewch chi fins pei am ddim! Yn ogystal, dyma gyfle gwych i fynd i’r siop i brynu anrhegion Nadolig.
Bydd hwyl yr ŵyl yn parhau gyda charolau gan bedair o ysgolion Wrecsam.
Rydym yn falch iawn bod Treetech yn noddi ein digwyddiad Cerflun Rhew y Nadolig gyda Simon O’Rourke ar Rhagfyr 5.
Mae Treetech yn fusnes llawfeddygaeth coed lleol, sy’n arbenigo ym mhob agwedd ar lawdriniaeth coed o gostyngiadau bach i dynnu coed I lawr yn llawn a chlirio’r safle.
Mae’r gwaith yn cynnwys torri gwrychoedd, malu bonion, hollti boncyffion a hiab trelar ac ati.
Dywedodd perchennog Shaine Bailey o Treetech “Diolch i Amgueddfa Wrecsam mae gennym y cyfle gwych hwn i noddi Simon yn y cerfiad Iâ ar 5 Rhagfyr. Bydd hyn yn tynnu sylw at bwysigrwydd busnes lleol yn gweithio gyda’i gilydd ac yn cefnogi ei gilydd i gynnig gwasanaeth gwych. Rydym yn gweithio gyda Simon i ganmol ei gerfiad pren. Mae gwylio Simon yn cerfio mewn rhew yn brofiad na ddylid ei golli.
Dewch o hyd i fanylion Treetech ar facebook neu Instagram treetech.16.
Mae’r digwyddiad yn rhad ac am ddim ac yn addas i bob oedran.
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.
COFRESTRWCH FI RŴAN