Erlynwyd perchennog siop gyfleustra yn New Broughton yn ddiweddar ar ôl i swyddogion trwyddedu ganfod bod y siop yn gwerthu alcohol heb y drwydded alcohol angenrheidiol.
Cyhoeddodd y llys ddirwyon a chostau o £1231 gyda gordal dioddefwr o £184.
Clywodd y llys fod deiliad y drwydded wedi bod â thrwydded yn flaenorol ond bod y drwydded hon wedi dod i ben gan nad oedd wedi talu’r ffi flynyddol.
Roedd y cyngor wedi anfon sawl nodyn atgoffa at ddeiliad y drwydded ond ni wnaeth dalu’r ffi, felly ataliwyd y drwydded yn unol â’r ddeddfwriaeth.
Bu i Swyddogion Trwyddedu ymweld â’r siop yn ddiweddarach a gweld bod stoc fawr o ddiodydd meddwol amrywiol ar werth. Roedd dewis eang o winoedd a chwrw ar y silffoedd, yn yr oergelloedd ac wedi’u pentyrru yn yr eiliau, ynghyd â dewis eang o wirodydd ar y silffoedd y tu ôl i’r til.
Cyflawnwyd prawf prynu ac fe werthodd aelod o staff botel o win i’r swyddogion. Cysylltwyd â’r perchennog ar ôl gwerthu’r botel o win a sylwyd bod llawer o bost heb ei agor yn yr eiddo, yn cynnwys yr hysbysiad am y gwaharddiad.
Dywedodd Joss Thomas, Swyddog Arbenigol, Trwyddedu, “Does yna ddim esgus dros werthu alcohol heb y drwydded briodol. Mae’r ddirwy hon yn anfon neges glir i bawb, sef ei bod yn drosedd, a gosbir gan y gyfraith, i beidio ag adnewyddu eu trwydded yn y cyfnod amser priodol. Rydym yn parhau i gadw llygad barcud ar drwyddedu i sicrhau bod alcohol ond yn cael ei werthu gan y rhai hynny sy’n ymddwyn mewn ffordd broffesiynol ac ni fyddwn yn oedi cyn cymryd camau yn erbyn y rhai nad ydynt.
“Mae methu â chael y drwydded angenrheidiol i werthu alcohol yn tanseilio’r rheolyddion sy’n bod i fynd i’r afael â’r niwed y gellir ei achosi drwy yfed alcohol.
“Mae yfed gormod yn un o brif achosion problemau iechyd difrifol a phroblemau ymddygiad gwrthgymdeithasol yn ein cymuned. Mae’r drefn drwyddedu yn bodoli i sicrhau bod alcohol yn cael ei werthu gan bobl sy’n cael eu hystyried yn ddiogel ac yn addas yn unig, ac mewn amgylchiadau sy’n sicrhau bod iechyd a lles y gymuned yn cael eu diogelu. Ein hymrwymiad yw sicrhau bod alcohol ond yn cael ei werthu gan y rhai hynny sy’n cymryd eu cyfrifoldebau o ddifri.
Wedi methu casgliad bin? Rhowch wybod i ni ar-lein – mae’n hawdd.
RHOWCH WYBOD AM GASGLIAD BIN A FETHWYD