Mae biniau gwyrdd yn dal gwastraff gardd. Rydych chi’n eu llenwi â gwair wedi torri ac ati…ac yna rydyn ni’n ei droi’n gompost hyfryd.
Swnio’n ddigon syml, dydi? Ond fe fyddech chi’n synnu at rai o’r eitemau od a rhyfedd mae ein tîm ailgylchu’n eu ffeindio ar ddiwrnodau casglu biniau gwyrdd.
Beth am boteli nwy barbeciw, i gychwyn. Fe fyddech chi’n cymryd yn ganiataol nad ydi cynwysyddion metel yn gwneud compost da iawn, ond rydyn ni wedi dod ar eu traws nhw.
GALLWCH GAEL NEWYDDION A GWYBODAETH AR UNWAITH GAN GYNGOR WRECSAM GYDA FY NIWEDDARIADAU.
Rydyn ni hefyd wedi dod o hyd i gadeiriau gardd plastig. Unwaith eto, dim y deunydd compostio gorau erioed (fyddech chi ddim yn gweld Monty Don yn bwydo PVuC wedi’i rwygo’n ddarnau i’w domatos).
Mae’r pethau rhyfedd eraill rydyn ni wedi dod ar eu traws yn cynnwys ffensys, brics a choncrid. Dydyn ni ddim yn caniatáu’r un o’r pethau hyn ac os byddwn ni’n dod o hyd iddyn nhw, fyddwn ni ddim yn gwagio’r bin hwnnw – allwn ni mo’u compostio nhw.
Ond y newyddion da yw…
Mae’r rhan fwyaf o drigolion Wrecsam yn gwneud joban dda iawn o lenwi eu biniau gwyrdd, a’r llynedd, fe wnaethoch chi ein helpu i gynhyrchu dros 6,800 tonnes o dunelli o gompost (ac rydyn ni’n ailgylchu cyfanswm o 68% o wastraff y cartref, sy’n arbennig).
Ond mae’n rhaid i ni gyfaddef ei bod yn hawdd i rywun wneud camgymeriad go iawn weithiau, felly dyma’ch atgoffa chi o’r pethau y dylech chi ei roi yn eich bin gwyrdd, a’r pethau i beidio.
Os gwelwch chi’n dda…
- Toriadau gwair
- Toriadau perthi a llwyni
- Blodau marw
- Chwyn
Dim diolch…
- Pridd
- Pren
- Brics
- Canclwm Japan
- Baw anifeiliaid ac anifeiliaid anwes
- Unrhyw fath o gardbord
Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd: “Pan mae’n dod at ailgylchu a chompostio, mae pobl Wrecsam yn gwneud gwaith anhygoel.
“Mae’n wir ein bod ni’n dod ar draws ambell i eitem anarferol! Ond mae’r rhan fwyaf o bobl yn gwneud yn wych, ac fe hoffwn i ddiolch i bawb sy’n rhoi eu gwastraff gardd yn eu bin gwyrdd.”
Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan Gyngor Wrecsam yn syth bin drwy Fi Niweddariadau.
SIGN ME UP