Da iawn i Ysgol Gynradd Gymunedol Hafod y Wern sydd wedi ennill Gwobr Ansawdd Genedlaethol Rhwydwaith Cynlluniau Ysgolion Iach Cymru’.
I gyflawni’r wobr, cyflawnodd Hafod y Wern yr holl feini prawf a nodwyd yn y Wobr Ansawdd Genedlaethol sy’n cynnwys 7 pwnc iechyd allweddol.
Mae ysgolion sy’n cyflawni’r ANG yn gweithredu’r mentrau llesiant canlynol ar y lefel uchaf un.
OS YDYM NI’N CAEL SETLIAD GWAEL, BYDD YN RHAID I NI YSTYRIED TORIADAU PELLACH. DWEUD EICH DWEUD…
- Bwyd a ffitrwydd (maeth a gweithgaredd corfforol)
- Iechyd a lles meddyliol ac emosiynol, gan gynnwys lles staff
- Datblygiad personol a pherthnasoedd, gan gynnwys addysg rhyw a pherthnasoedd
- Defnyddio a chamddefnyddio sylweddau, gan gynnwys alcohol, ysmygu a chyffuriau (cyfreithlon, anghyfreithlon a phresgripsiwn).
- Yr amgylchedd, gan gynnwys eco-fentrau a gwella’r ysgol a’r amgylchedd ehangach
- Diogelwch, gan gynnwys amrywiaeth o bynciau fel amddiffyn plant, diogelwch rhag yr haul, diogelwch ar y we, a chymorth cyntaf
- Hylendid gan gynnwys ar draws yr ysgol a lleoliadau heblaw’r ysgol.
Dywedodd y Cydlynydd Ysgol Iach, Mrs. Anwen Donoher: ‘Mae hwn yn gyflawniad rhagorol, mae wedi cymryd yr ysgol chwe blynedd i’w gyflawni a dylai pawb fod yn falch iawn o’u hunain.’
Os ydym ni’n cael setliad gwael, bydd yn rhaid i ni ystyried toriadau pellach. Dweud eich dweud.
DWEUD EICH DWEUD