Ydych chi’n gwybod beth yw Gorchymyn Gwahardd Cerbydau Modur? Yn bwysicach fyth, ydych chi’n gwybod ym mhle mae’r gwaharddiadau hyn mewn grym yng nghanol dinas Wrecsam? Dyma restr i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi.
Mae Gorchymyn Gwahardd Cerbydau Modur ar stryd yn golygu mai dim ond mathau penodol o gerbydau sy’n gallu gyrru ar y stryd honno. Er enghraifft, efallai nad ydych chi’n gallu gyrru eich car ar y stryd honno, ond caniateir bysiau.
Mae yna dair ardal yng nghanol y ddinas lle mae gwaharddiadau ar gerbydau modur mewn grym (mae’r rhain mewn grym bedair awr ar hugain y dydd saith diwrnod yr wythnos):
Gwahardd pob cerbyd modur A:
Ac eithrio bysiau, deiliaid bathodyn glas, llwytho a dadlwytho a mynediad i eglwys San Silyn.
Ble: Y Stryt Fawr, Stryt yr Eglwys ac Allt Uchaf y Dref
Gwahardd pob cerbyd modur B:
Ac eithrio ar gyfer mynediad, deiliaid bathodyn glas, llwytho a dadlwytho, bysiau a cherbydau hacni.
Ble: Stryt y Brenin (o gyffordd Stryt y Rhaglaw i gyffordd Stryt yr Arglwydd) a Stryt y Dug
Gwahardd pob cerbyd modur C:
Ble: Stryt Egerton (o Ffordd Rhosddu i’r gyffordd gyda Stryt yr Arglwydd)
Wedi methu casgliad bin? Rhowch wybod i ni ar-lein – mae’n hawdd.
RHOWCH WYBOD AM GASGLIAD BIN A FETHWYD