Beth mae’n ei olygu i fod mewn parth cerddwyr?
I sicrhau nad ydych yn cael dirwy yng nghanol y ddinas, darllenwch ymlaen i ddarganfod lle gallwch yrru, a phryd.
Mae gennym barthau cerddwyr i wneud canol y ddinas yn fwy diogel ac yn fwy deniadol i siopwyr. Mae llygredd aer hefyd yn is mewn parthau cerddwyr, maen nhw’n dawelach ac yn edrych yn well. Yn ogystal mae manteision economaidd gan fod mwy o bobl yn prynu o siopau mewn parthau cerddwyr.
Lle mae’r parthau hyn yng nghanol dinas Wrecsam?
Yn Wrecsam mae gennym ni dri math o barth cerddwyr, yn dibynnu ar eu lleoliad ac anghenion preswylwyr a busnesau ar y strydoedd.
Parth Cerddwyr A:
Dim mynediad i gerbydau modur ac eithrio bysiau/deiliaid bathodynnau glas/ar gyfer llwytho a dadlwytho: cyn 11.30am ac ar ôl 5pm dydd Llun i ddydd Gwener, cyn 9.30am ac ar ôl 5pm ar ddydd Sadwrn a chyn 1pm ac ar ôl 5pm ar ddydd Sul. Lle: Stryt y Lampint, Heol y Frenhines, Stryt Henblas, Stryt yr Hôb, Stryt Caer.
Parth Cerddwyr B:
Dim mynediad i unrhyw gerbyd modur ac eithrio cerbydau hacni a thacsis a cherbydau sydd angen llwytho a dadlwytho.
Lle: Ffordd Rhosddu (ger swyddfa gyrfaoedd y Fyddin) a Stryt Argyle
Parth Cerddwyr C:
Dim mynediad i unrhyw gerbyd modur ac eithrio deiliaid bathodynnau glas a cherbydau sydd angen llwytho a dadlwytho.
Lle: Stryt Siarl
Beth fydd yn digwydd os ydych yn torri’r rheolau?
Os ydych yn parcio cerbyd mewn parth cerddwyr pan na ddylech wneud hynny, gall swyddog gorfodi parcio’r cyngor roi hysbysiad cosb o £70 i chi.
Gallai gyrru drwy barth cerddwyr pan na ddylech wneud hynny olygu dirwy gan yr heddlu.
Eich cyfrifoldeb chi fel gyrrwr y cerbyd yw gwirio’r arwyddion sydd mewn grym a gwybod rheolau’r ffordd.
Wedi methu casgliad bin? Rhowch wybod i ni ar-lein – mae’n hawdd.
RHOWCH WYBOD AM GASGLIAD BIN A FETHWYD