Dim ond hyn a hyn o amser sydd mewn diwrnod…ac mae hi’n hawdd methu rhywbeth gyda’r holl newyddion, hysbysiadau ar y cyfryngau cymdeithasol a’r holl wybodaeth arall sydd yn cystadlu am ein hamser.
Felly dyma restr sydyn o rai o’n prif straeon o’n blog dros yr wythnosau diwethaf.
Os na wnaethoch chi eu darllen y tro cyntaf, cymerwch gipolwg. Maent dal werth eu darllen…
1. Fydda i ddim yn gwneud hynna!
“Fydda i ddim yn gwneud hynna!” yw’r ateb fyddech chi’n ei gael mwyaf tebyg pe baech chi’n gofyn i rywun a wnaethon nhw ollwng sbwriel yn fwriadol!
Does neb yn cyfaddef eu bod yn gwneud, ond eto, mae’r sbwriel yna i’w weld ar ymyl ein ffyrdd, yn ein parciau, yng nghanol y dref, yn yr ardaloedd gwledig – ym mhobman.
2. Bwlio – paid â dioddef mewn tawelwch
Os wyt ti neu rywun rwyt ti’n ei adnabod yn cael eich bwlio, mae help, cyngor a chefnogaeth ar gael.
3. Goroeswr trawiad ar y galon yn un o farsialiaid y ras
Dychwelodd dyn a ddioddefodd drawiad ar y galon wrth gymryd rhan mewn triathlon yn i helpu fel marsial yn y gystadleuaeth.
4. Help i gyn-aelodau’r lluoedd arfog glywed yn well
Mae cyn aelod o’r Gwarchodlu Cymreig wedi galw ar gyn-aelodau’r lluoedd arfog sy’n dioddef o golled clyw i ofyn am gefnogaeth gan wasanaeth newydd sy’n cael ei redeg gan yr elusen Gweithredu ar Golled Clyw Cymru.
5. Pryderu am alabama rot?
Os ydych yn berchennog ci, gwnewch yn siŵr eich bod yn darllen hwn.
Rydym wedi cael sawl ymholiad dros yr wythnos ddiwethaf lle mae perchnogion cŵn pryderus wedi gofyn i ni am Alabama Rot.
6. Byddwch yn gwthgar 🙂
Mae hysbysiadau gwthio (push notifications yn Saesneg) fel trowsus loncian gyda lastig. Weithiau maent yn ddefnyddiol. Weithiau maent yn mynd ar eich nerfau.
Ond os ydych yn hoffi cael gwybod ein straeon diweddaraf, mae gennym newyddion da…
7. Hanes Gogledd Ddwyrain Cymru mewn 100 gwrthrych
Mae arddangosfa newydd sy’n agor yn Amgueddfa Wrecsam yn seiliedig ar y sialens o ddweud hanes Gogledd Ddwyrain Cymru mewn 100 gwrthrych.
Dwedwch sut y medrwn ni ateb i’r heriau tai dros y pum mlynedd nesaf.
DW I EISIAU CYNNIG FY MARN AR DAI