Bydd Sesiwn Galw Heibio nesaf i Gyn Filwyr yn digwydd ddydd Sadwrn 26 Awst yn y Neuadd Goffa yn Wrecsam o 10am tan hanner dydd.
Os ydych chi wedi gwasanaethu yn y lluoedd arfog, galwch heibio i gael sgwrs a phaned!
Bydd gan gyn-filwyr yn ardal Wrecsam le newydd yn fuan i gael cefnogaeth, meithrin cyfeillgarwch, a dod o hyd i adnoddau sydd wedi’u teilwra i’w hanghenion.
Ddydd Sadwrn 29 Gorffennaf 2023, bydd Sesiwn Galw Heibio i Gyn-filwyr yn cael ei chynnal yn Neuadd Goffa Wrecsam, yn dechrau am 10am tan 12 hanner dydd; a dydd Sadwrn olaf pob mis ar ôl hynny.
Nod y fenter hon yw meithrin synnwyr o gymuned ymhlith Cyn-filwyr, gan roi lle diogel iddyn nhw rannu profiadau, cysylltu â Chyn-filwyr eraill, a manteisio ar amrywiaeth o wasanaethau cefnogi os oes angen iddyn nhw wneud hynny.
Mae’r Sesiwn Galw Heibio i Gyn-filwyr wedi’i threfnu gan Woody’s Lodge a Chyngor Wrecsam, ynghyd â chydweithrediad sefydliadau lleol, yn cynnwys cymdeithasau cyn-filwyr, grwpiau cefnogi a phartneriaid cymunedol. Gyda’i gilydd, maen nhw wedi cydnabod pwysigrwydd creu amgylchedd cefnogol lle gall Cyn-filwyr ddod at ei gilydd, cyfnewid straeon, gofyn am arweiniad a mynd at adnoddau i wella eu lles.
Yn ystod y sesiwn galw heibio, bydd gan Gyn-filwyr gyfle i gael paned, sgwrs a chysylltu â chyfoedion sydd â phrofiadau cyffredin. Bydd cynrychiolwyr o sefydliadau cefnogi lleol yno hefyd a fydd yn rhoi manylion y gwasanaethau cefnogi y maen nhw’n eu cynnig, os bydd angen.
“Gan gydnabod yr heriau unigryw y mae Cyn-filwyr yn eu hwynebu, yr ydym ni wedi dod at ein gilydd i sefydlu’r sesiwn galw heibio hon fel canolbwynt cefnogi,” dywedodd Graham Jones, Cyn-filwr a Phrif Swyddog Gweithredol Woody’s Lodge. “Ein nod ni yw creu amgylchedd croesawgar lle gall Cyn-filwyr feithrin cyfeillgarwch, gofyn am gefnogaeth a chysylltu ag adnoddau a fydd yn cyfrannu at eu lles yn gyffredinol ac yr ydym ni’n dymuno diolch i Gyngor Wrecsam am eu cefnogaeth â’r fenter hon.
Dywedodd y Cynghorydd Beverley Parry-Jones, Cefnogwr y Lluoedd Arfog Wrecsam: “Mae trosglwyddo o wasanaeth gweithredol i fywyd bob dydd yn gallu bod yn heriol iawn, felly mae’n gwbl hanfodol bod Cyn-filwyr yn cael y gefnogaeth a’r cymorth sydd eu hangen arnynt. Mae Wrecsam yn falch iawn o’i gysylltiadau â’r Lluoedd Arfog, ac yr ydym ni fel cyngor wedi ymrwymo i gefnogi Cyn-filwyr.
“Rydym ni wrth ein bodd yn cael bod yn rhan o’r fenter ardderchog hon ac y byddem ni’n annog pobl i sôn amdani a rhoi gwybod i Gyn-filwyr am y sesiynau galw heibio newydd. Os ydych chi wedi gwasanaethu yn y lluoedd arfog, galwch heibio i gael sgwrs a phaned.”
Bydd y Sesiwn Galw Heibio i Gyn-filwyr yn cael ei chynnal yn y Neuadd Goffa, sydd wedi’i lleoli wrth ymyl maes parcio Byd Dŵr Wrecsam. Bydd y digwyddiad yn dechrau am 10am ac yn parhau tan 12 hanner dydd. Bydd lluniaeth ysgafn ar gael.
Mae’r digwyddiad hwn ar gael i bob Cyn-filwr, waeth beth fo’u cangen gwasanaeth, oedran neu hyd eu gwasanaeth.
Mae croeso hefyd i ffrindiau ac aelodau o deulu’r Cyn-filwyr sydd â diddordeb mewn cefnogi a dysgu rhagor am yr adnoddau sydd ar gael, ddod i’r digwyddiad.
I gael rhagor o wybodaeth am y Sesiwn Galw Heibio i Gyn-filwyr yn Wrecsam, cysylltwch â Graham Jones.