Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Ysgol Penygelli yn falch o adroddiad arolygu cadarnhaol
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Ysgol Penygelli yn falch o adroddiad arolygu cadarnhaol
Y cyngorBusnes ac addysg

Ysgol Penygelli yn falch o adroddiad arolygu cadarnhaol

Diweddarwyd diwethaf: Gorffennaf 17, 2023 10:20 am
Rhannu
Darllen 3 funud
Penygelli School
RHANNU

Bu Estyn draw yn Ysgol Gynradd Penygelli yng Nghoedpoeth yn ystod mis Mai ac mae’r staff a llywodraethwyr yn eithriadol o falch o’r adroddiad arolygu cadarnhaol.

Mae’r adroddiad yn disgrifio nifer o gryfderau ar draws yr ysgol, ac yn benodol “ymddygiad rhagorol” disgyblion a’r bartneriaeth gref rhwng yr ysgol a rhieni, sy’n cael ei chyflawni drwy waith caled disgyblion, staff a llywodraethwyr.

“Mae athrawon yn cynllunio amrywiaeth eang o weithgareddau dysgu ysgogol” a “cyfleoedd da i ddisgyblion ddatblygu eu chwilfrydedd am y byd o’u cwmpas.”

“Mae darpariaeth ar gyfer gofal, cymorth ac arweiniad disgyblion, yn enwedig y rhai ag anghenion dysgu ychwanegol, yn gryf.”

Mae’r adroddiad yn ychwanegu, “Mae’r rhieni’n canmol yr ymrwymiad a ddangosir gan arweinwyr a staff i’w cynorthwyo nhw a dysgu eu plant.”

Mae Ysgol Penygelli yn darparu “amgylchedd gofalgar, meddylgar, hapus a diogel ar gyfer disgyblion.

Dywedodd y Pennaeth Dros Dro Sean Wade “Rydw i wrth fy modd bod yr adroddiad yn tynnu sylw at y cynnydd da y mae ein disgyblion yn ei wneud gyda’u sgiliau darllen, creadigol a chorfforol a’n bod yn darparu amgylchedd cynhwysol a chroesawgar i bawb.  Tra bod gennym ni bethau i weithio arnynt ac i’w gwella, mae’r argymhellion yn yr adroddiad yn rhoi llwybr clir i ni i fod yr ysgol gorau posibl i y gallwn ni fod.”

Ysgol Penygelli pupils have opportunities to have an impact on their local community

Mae’r Cynghorydd Phil Wynn, Aelod Arweiniol Addysg, wedi mynegi ei orfoledd gyda’r nifer o gryfderau sy’n cael sylw yn yr adroddiad ac am “y cyfleoedd da i ddisgyblion fod yn ddinasyddion gweithredol a chael effaith yn eu cymuned leol.”

Dywedodd Anthony Wedlake, Cadeirydd Llywodraethwyr yn Ysgol Gynradd Penygelli a Chynghorydd Sir ar gyfer Coedpoeth, “Mae gennym lawer i’w ddathlu wrth symud ymlaen, mae adroddiad Estyn wedi tynnu sylw at y cynnydd da a wnaed gan ein disgyblion mewn sawl maes o ymgysylltu a chwricwlwm o safon uchel, ymddygiad rhagorol ein disgyblion a’r berthynas gref rhwng disgyblion a staff.”

“Mae gennym ychydig o lefydd dal ar gael yn ein dosbarth Meithrin gwych ac ar draws grwpiau blwyddyn eraill, felly dewch draw i gael golwg, i gyfarfod ein plant gwych ac ymuno â theulu Penygelli.” Gallwch ddarllen yr adroddiad yma.

Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.

Efallai yr hoffech hefyd ddarllen: Disgyblion yn ennill gwobr am eu gwaith caled dros y Gymraeg

Rhannu
Erthygl flaenorol Cup of tea Woody’s Lodge yn cynnig Sesiwn Galw Heibio Newydd i Gyn-filwyr i gael Cefnogaeth a Meithrin Cyfeillgarwch yn Wrecsam
Erthygl nesaf HMRC CThEF yn addo £5.5 miliwn o gyllid partneriaeth i roi cymorth i gwsmeriaid y mae angen help ychwanegol arnynt 

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Yorke Street
Ydych chi’n gyrru i ganol dinas Wrecsam? Parciwch yn gyfrifol a dilynwch reolau traffig o amgylch y Stryd Fawr
Arall Pobl a lle
Medi 1, 2026
Blue emergency services light
Codi baner 999 i gefnogi Diwrnod y Gwasanaethau Brys
Arall Pobl a lle
Medi 1, 2026
Caffi hynaf Wrecsam wedi'i adnewyddu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol
Caffi hynaf Wrecsam wedi’i adnewyddu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol
Pobl a lle
Medi 1, 2026
Minera Roof Trusses
Ehangu ar gyfer busnes teuluol yn dilyn grant Ardal Fuddsoddi
Busnes ac addysg
Awst 28, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Social Prescribing and Community Wellness service
Pobl a lleY cyngor

Gwasanaeth Presgripsiynu Cymdeithasol a Lles Cymunedol i gefnogi cymunedau Wrecsam

Awst 28, 2026
Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu
Pobl a lleY cyngor

Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu

Awst 27, 2026
The Base – Cymorth ieuenctid yng nghymunedau Wrecsam
Y cyngor

The Base – Cymorth ieuenctid yng nghymunedau Wrecsam

Awst 25, 2026
Cyhoeddi dyddiad agor Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam
DigwyddiadauPobl a lleY cyngor

Cyhoeddi dyddiad agor Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam

Awst 25, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English