Roedd hi’n benwythnos mawr yn Wrecsam wrth i nifer heidio i’r dref i fwynhau ddydd Sadwrn a dydd Sul diwethaf.
Cafwyd presenoldeb uchaf erioed yng Nghomic Con Cymru ym Mhrifysgol Glyndŵr, gyda 15,000 o bobl yno ar gyfer degfed flwyddyn y digwyddiad. Daeth ymwelwyr ar draws Ewrop a’r DU ac roedd nifer wedi gwisgo ar gyfer yr achlysur i gyfarfod eu hoff actorion ac eiconau o fyd y teledu, y sgrin fawr a chomics.
Roedd plant wrth eu boddau o weld eu hoff sêr o Harry Potter, Dr Who a Star Wars, tra bod eraill yn disgwyl yn eiddgar mewn rhesi i gyfarfod cymeriadau o Buffy, Sons of Anarchy, Once Upon a Time, Lord of the Rings, Supernatural a The Vampire Diaries – dim ond i enwi rhai! Roedd y rhai ifanc a’r rhai hŷn wedi gwirioni â’r ardal gemau, y babell reslo, arddangosfeydd cerbydau ac wrth gwrs y cosplayers eu hunain. Roeddent yn edrych yn wych a rhaid eu canmol am yr holl ymdrech.
PEIDIWCH BYTH Â METHU CASGLIAD BINIAU – COFRESTRWCH AM DDIWEDDARIADAU WYTHNOSOL.
Yna roedd Dydd Sadwrn y Busnesau Bychain ac agoriad Ogof Siôn Corn yn Nhŷ Pawb yng nghanol y dref. Mae’r masnachwyr wedi rhoi adborth da am y diwrnod ac roedd nifer fawr o ymwelwyr yn canmol canol y dref.
Yn olaf, daeth dros 5,000 i’r Cae Ras ar gyfer 2il rownd gêm gwpan yr FA yn erbyn Casnewydd – nid oes modd dathlu eto gyda gêm gyfartal 0-0 a gêm arall yn cael ei gynnal yn fuan – ond rydym yn obeithiol iawn.
Roedd y parcio am ddim wedi helpu i hybu canol y dref ddydd Sadwrn, a gallwch ddod o hyd i ddigwyddiadau eraill sy’n cael eu cefnogi gan barcio am ddim yma.
Peidiwch byth â methu casgliad biniau – cofrestrwch am wythnosol rŵan.
COFIWCH EICH BINIAU