Mae un o’n hysgolion cynradd wedi cael adroddiad da iawn yn ddiweddar gan yr arolygwyr addysg, Estyn.
Derbyniodd Ysgol Acrefair raddfa “Da” ar draws pob maes, gan dderbyn canmoliaeth arbennig gan arolygwyr ar gyfer meysydd safonau, lles, addysgu, gofal ac arweinyddiaeth.
Mae’r adroddiad (dolen gyswllt Saesneg) yn datgan bod gan yr ysgol “amgylchedd cyfeillgar a gofalgar”, gyda safon dda o ymddygiad a hunanddisgyblaeth ymysg disgyblion yn y rhan fwyaf o wersi o amgylch yr ysgol.
PEIDIWCH BYTH Â METHU CASGLIAD BINIAU – COFRESTRWCH AM DDIWEDDARIADAU WYTHNOSOL.
Mae’n nodi hefyd bod yr ysgol yn cynllunio’r cwricwlwm yn effeithiol, gydag athrawon yn helpu disgyblion i ddatblygu eu sgiliau creadigol drwy “ystod eang o weithgareddau diddorol”. Mae “prosiectau awyr agored cyffrous” yn elfen gadarn iawn, gan gynnwys defnydd o’r Ysgol Goedwig.
Mae arweinyddiaeth yr ysgol yn cael ei chanmol hefyd, gan nodi fod “y pennaeth yn darparu arweinyddiaeth effeithiol a chyfarwyddyd strategol clir ar gyfer gwaith yr ysgol.”
Mae’r adroddiad yn ychwanegu: “Bod diwylliant cryf o welliant parhaus ac mae camau gweithredu yn cefnogi’r gwelliant hwn yn dda . Mae staff yn rhannu cyfrifoldebau arwain yn llwyddiannus. Mae’r ysgol yn ymgysylltu’n dda gyda rhieni ac wedi cyfathrebu ei gweledigaeth a’i gwerthoedd yn effeithiol.”
Dywedodd Rebecca Turner, Pennaeth Ysgol Acrefair: “Rwy’n falch iawn gyda sylwadau arolygwyr Estyn yn yr adroddiad.
“Fel y nodwyd yn yr adroddiad, mae lle i wella o hyd, a byddwn yn ymdrechu i gyflawni’r argymhellion a amlinellodd Estyn, ond rydym yn falch iawn gyda dyfarniad yr adroddiad, a hoffwn ddiolch i’r staff a’r disgyblion am eu gwaith caled wrth ein helpu i gyflawni’r safonau hyn.”
Dywedodd Mrs Lynda Broe, Cadeirydd y Llywodraethwyr: “Rwy’n dymuno llongyfarch Mrs Turner a’r holl aelodau staff ar ran y corff llywodraethu am Adroddiad Arolygu llwyddiannus iawn, sy’n adlewyrchu’r ymroddiad i sicrhau bod pob plentyn yn derbyn profiad addysg llawn cyfoeth a boddhad drwy gydol eu blynyddoedd cynradd.”
Dywedodd y Cynghorydd Phil Wynn, yr Aelod Arweiniol dros Addysg: “Dylid llongyfarch Ysgol Acrefair am eu hadroddiad gan Estyn – mae cyflawni ‘Da’ ar draws pob maes yn dipyn o gamp, a byddwn yn parhau i gefnogi’r ysgol wrth iddi weithio i gyflawni’r argymhellion a nododd yr arolygwyr o fewn yr adroddiad.”
Peidiwch byth â methu casgliad biniau – cofrestrwch am wythnosol rŵan.
COFIWCH EICH BINIAU