Ar 24 Ebrill eleni, cyhoeddwyd y byddai beicwyr gorau’r byd yn dychwelyd i Wrecsam gyda Thaith Prydain yn ymweld â ni ar 4/09/23 Beicwyr Gorau’r byd yn dychwelyd i Wrecsam eleni – Newyddion Cyngor Wrecsam pan wnaethom gadarnhau bydd y cam gorffen yn ymweld.
Ers hynny mae’r trafodaethau wedi datblygu ac mae Wrecsam mewn sefyllfa unigryw yn Nhaith 2023 gan mai dyma’r unig ranbarth i gynnal cychwyn a diwedd y ras.
Bydd cynnal cychwyn a diwedd y ras yn golygu y bydd mwy o bobl yn gallu dod i mewn i Wrecsam ac i fwynhau’r sioe, ac am gyfnod hirach. Rydym yn rhagweld y bydd hyn yn golygu mwy o bobl yn aros yn lleol ac yn gwario yn Wrecsam, yn arbennig o fewn lletygarwch.
Hyrwyddo’r Daith
Rydym eisoes wedi dechrau hyrwyddo gyda thaith Beicio Cymru yn ei Blodau yng Nghanol Dinas Wrecsam. Rydym yn paratoi ar gyfer Cymru yn ei Blodau – Newyddion Cyngor Wrecsam
Rydym yn gweithio gyda nifer o sefydliadau lleol a chenedlaethol a fydd yn annog cyfranogiad cyn ac yn ystod y daith. Hefyd, byddwn yn defnyddio’r digwyddiad i hyrwyddo ac annog teithio llesol o fewn y Ddinas a Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Bydd cael digwyddiadau fel hyn yn y rhanbarth yn rhoi hwb i chwaraeon yn lleol, ac rydym yn disgwyl y bydd ymwybyddiaeth a brwdfrydedd i feicio yn cynyddu, ac yn cael effaith hir dymor ar ddechrau a chymryd rhan yn rhanbarthol ar ôl i’r digwyddiad ymweld. Mae hyn yn cynnwys o fewn ein hysgolion.
Byddwn yn cynyddu ein hyrwyddiad, ymgysylltiad cyhoeddus ac ymwybyddiaeth gyda’r digwyddiad yn ogystal ag agweddau iechyd a lles ffordd o fyw iach, a byw’n iach fel bydd y digwyddiad yn nesau. Bydd hyn yn cynnwys gweithio gyda’n partner Taith Prydain a fydd yn darparu llawer iawn o’r deunyddiau hyrwyddo.
Mae nifer o ysgolion yn y sir ar ddiwrnod hyfforddiant neu ddiwrnod cyntaf yn ôl ar ôl y gwyliau, a gall hyn gyfyngu ar eu gallu i gymryd rhan. Fodd bynnag, byddwn yn annog teuluoedd i fynychu, yn ogystal ag annog ysgolion gymryd rhan lle bo modd.
Byddwn yn ymgysylltu gyda busnesau yn y ddinas hefyd a’r rheiny sydd yn cael eu heffeithio gan y daith, fel eu bod yn gwybod beth i’w ddisgwyl ar y diwrnod, gan gynnwys trefniadau parcio amgen.
Beth i’w ddisgwyl ar y diwrnod
Bydd gweithgareddau yn cael eu cynnal ar y diwrnod o amgylch pentref y daith (yn Llwyn Isaf) – bydd hyn yn cynnwys gweithgareddau a stondinau gyda thema beicio. Rydym dal yn gweithio gyda rhanddeiliaid a sefydliadau eraill i gwblhau rhaglen o ddigwyddiadau ac ymgysylltiad.
Llwybr y Daith
Bydd y daith yn dechrau a gorffen ar Stryd Caer a byddwn yn annog pawb sydd yn gallu i ymweld â chanol y ddinas a mwynhau’r awyrgylch. Fodd bynnag, efallai byddwch yn gallu gweld ychydig o’r ras yn ymyl eich cartref drwy edrych ar fap o’r daith:
Cam 2 Wrecsam- Wrexham v7 on gpx2kml.com – Free online gpx to kml converter
Meddai’r Cynghorydd Nigel Williams, Aelod Arweiniol Economi Cyngor Wrecsam: “Mae cynnal y ddau gam, dechrau a diwedd Taith Prydain yn rhoi sylw chwaraeon ar Wrecsam eto.
“Fel dinas fwyaf newydd yng Nghymru, a gyda’n huchelgeisiau o fod yn Ddinas Diwylliant 2029, mae’n bwysig atynnu digwyddiadau mawr sydd yn tynnu cynulleidfaoedd rhyngwladol.”
“Chewch chi ddim gwell na hynny, a bydd y digwyddiad yn dod â budd enfawr i’r economi leol – gan helpu i godi proffil Wrecsam fel lle i gynnal digwyddiadau mawr, a dod â mwy o bobl i ganol y ddinas.”