Wrecsam v Birmingham | Dydd Gwener, 3 Hydref | Cic gyntaf 8pm
Cyn y gêm
Parcio y tu allan i swyddfeydd Cyngor Wrecsam ar Ffordd Rhuthun, Wrecsam LL13 7TU
Bydd bysiau’n rhedeg bob 20 munud gan ddechrau am 6pm; bws olaf 7.20pm.
Ar ôl y gêm
Bydd bysiau’n rhedeg bob 20 munud gan ddechrau am 10pm o Ffordd yr Wyddgrug; bws olaf 11.20pm.
Noder, yn flaenorol, roedd y bysiau cyntaf ar ôl y gêm yn mynd o Dunelm Mill, ond mae gwelliannau i’r gwasanaeth yn golygu y bydd pob bws ar ôl y gêm bellach yn rhedeg o Ffordd yr Wyddgrug.
Dim ond £1 am daith ddwyffordd i oedolion (50c i blant)
Maes parcio’n cau am 11.59pm.
Nod y gwasanaeth parcio a theithio yw lleihau tagfeydd.
Bydd defnyddio gwasanaeth Parcio a Theithio Ffordd Rhuthun hefyd yn golygu y bydd eich car wedi’i barcio’n ddiogel ac yn gyfleus. Ar ddiwrnodau gêm, bydd swyddogion gorfodi parcio allan i wneud yn siŵr nad yw ceir yn cael eu parcio’n anghyfreithlon neu’n beryglus yng nghanol y dref a’r ardal gyfagos.
Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, dirprwy arweinydd y cyngor a’r aelod arweiniol dros dai a newid hinsawdd: “Mae Clwb Pêl-droed Wrecsam wedi gweld cynnydd mawr a barhaus mewn cefnogwyr, sy’n newyddion gwych i’r clwb a’r ddinas – ond mae hyn hefyd yn cynyddu’r galw am barcio ar ddiwrnod y gêm.
“O ganlyniad, rydym yn parhau i weithio gydag Arriva Gogledd Orllewin a Chymru i weithredu a gwella’r gwasanaeth bws gwennol bwrpasol i ategu’r parcio ar ddiwrnod y gêm sydd ar gael yn ein safle ar Ffordd Rhuthun.
“Gyda’r gwasanaeth hwn, ein nod yw lleihau tagfeydd traffig a chynnig parcio cyfleus ar ddiwrnod y gêm i gefnogwyr pêl-droed. mae gwelliannau i’r gwasanaeth yn golygu bod y bws rŵan yn casglu o Ffordd yr Wyddgrug yn syth ar ôl y gêm, rydym yn annog cefnogwyr i ddefnyddio’r cynllun parcio a theithio.”
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.