Oddeutu 10.30am ar 11 Tachwedd 1918, cyrhaeddodd y newyddion Wrecsam y byddai’r gynau’n rhoi gorau i danio am 11 o’r gloch – a byddai’r ymladd yn dod i ben yn swyddogol. Yn Wrecsam atseiniodd corn ffatri i hysbysu’r boblogaeth leol bod y newyddion pwysig ar ddigwydd. Yn fuan roedd lorïau’n llawn o weithwyr arfau oedd yn dathlu yn gorymdeithio trwy’r dref a chasglodd pobl yn y Stryd Fawr i glywed cyhoeddiad swyddogol gan y maer o falconi Gwesty’r Wynnstay Arms. Roedd yn amser o emosiynau cymysg ac amrwd: rhyddhad a phleser am ddiwedd yr ymladd; tristwch a galar wrth feddwl am y rhai a fu farw.
Fel sawl cymuned ar draws y DU, mae Wrecsam wedi cynllunio cyfres o ddigwyddiadau i nodi canmlwyddiant ers arwyddo’r Cadoediad rhwng y Cynghreiriaid a’r Almaen yn Compiegne, gogledd Ffrainc, ar 11 Tachwedd 1918.
Ymysg y rhaglen amrywiol o ddigwyddiadau mae arddangosfa Wrecsam yn eu Cofio sydd yn agor ar 3 Tachwedd.
• Arddangosfa ‘dros dro’ mewn tri lleoliad ar draws canol tref Wrecsam yn y Neuadd Goffa, Eglwys Plwyf San Silyn a Llyfrgell Wrecsam sydd yn canolbwyntio ar straeon unigolion lleol a laddwyd tra’n gwasanaethu yn y lluoedd arfog a’r lluoedd cynorthwyol yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.
• Bydd pedwaredd ran arddangosfa Wrecsam yn eu Cofio i’w weld ym mhrif oriel Amgueddfa Wrecsam lle bydd modd i ymwelwyr weld medalau a chofebau milwyr, morwyr ac awyrenwyr lleol.
• Mae’r arddangosfa ar agor yn y pedwar lleoliad o 3 Tachwedd. Mae taflen gofrodd rhad ac am ddim yn cyd-fynd â’r arddangosfa.
• Mae Wrecsam yn eu Cofio yn seiliedig ar waith ymchwil a wnaed gan Brosiect Rhestr y Gwroniaid Cyfeillion Amgueddfeydd Wrecsam, a drefnwyd gan hanesydd lleol uchel ei barch, Alister Williams. Mae’r arddangosfa a’r daflen wedi cael eu cefnogi gan Ymddiriedolaeth Cronfa Cyfamod y Lluoedd Arfog.
In addition as part of the Armistice Centenary Commemorations, a new permanent display at the Memorial Yn ychwanegol, ac yn rhan o Ddigwyddiadau i Nodi Canmlwyddiant y Cadoediad, bydd arddangosfa barhaol newydd yn y Neuadd Goffa yn tynnu sylw at gysylltiadau Wrecsam gyda’r lluoedd arfog dros y ddwy ganrif ddiwethaf ac yn adrodd stori’r cofebau cyfagos i’r rhai a fu farw yn y Rhyfel Byd Cyntaf a’r Ail Ryfel Byd.
Dywedodd y Cynghorydd David Griffiths, “Ar 11 Tachwedd bob blwyddyn, rydym yn cofio’r rhai a laddwyd yn ystod sawl rhyfel y mae’r wlad hon wedi’u hwynebu dros y ganrif ddiwethaf. Mae eleni yn arbennig o deimladwy gan ei bod yn 100 mlynedd ers y Cadoediad a ddaeth â chyflafan y Rhyfel Byd Cyntaf i ben.
Mae arddangosfa Wrecsam yn eu Cofio yn gyfle prin i roi wyneb i rai o’r enwau sydd wedi’u cerfio ar ein cofebau rhyfel lleol, a darganfod straeon am yr unigolion dewr yma.
Mae’r Cyngor, cynghorau cymuned a sefydliadau lleol wedi dod ynghyd i greu teyrnged addas i’r rhai a laddwyd yn y rhyfeloedd hyn. Fe hoffwn gydnabod cefnogaeth Ymddiriedolaeth Cronfa Cyfamod y Lluoedd Arfog yn sicrhau bod y digwyddiadau coffa hyn yn bosibl”.
Mae arddangosfa Wrecsam yn eu Cofio yn agor ar 3 Tachwedd.
DWI ISIO MYNEGI FY MARN!
DOES DIM OTS GEN