Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Beth yw Datblygu Darllenwyr?
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Beth yw Datblygu Darllenwyr?
Arall

Beth yw Datblygu Darllenwyr?

Diweddarwyd diwethaf: Tachwedd 7, 2018 3:24 pm
Rhannu
Darllen 5 funud
Beth yw Datblygu Darllenwyr?
RHANNU

Erthygl gan Debbie Williams, Swyddog Gwasanaethau Llyfrgell Wrecsam

Mae darllen yn rhywbeth mae pobl yn ei wneud ar eu pennau’u hunain gan amlaf, ac yn ôl pob tebyg mae llyfrau’n fwy poblogaidd nag unrhyw fath arall o gelfyddyd.  Y weithred o ddarllen sydd wrth wraidd datblygu darllenwyr, a chydnabod bod y darllenydd yn chwarae rhan weithredol yn hytrach na goddefol yn hyn o beth. Mae deunydd marchnata a’r ddelwedd o lenyddiaeth ar y cyfryngau’n canolbwyntio ar yr awduron neu’r llyfrau; mae llyfrgelloedd yn rhoi pwyslais ar y darllenwyr drwy ofyn, pwy yw’r darllenydd?  Sut ydyn ni’n eu cyrraedd nhw, a pham? Pa ddylanwad sydd gan ddarllenwyr ar lyfrgelloedd?

Mae’n siŵr bod darllen yn destun mwy o gywilydd, euogrwydd a snobyddiaeth nag unrhyw fath arall o gelfyddyd, ac er na fyddai neb yn meddwl ddwywaith am feddwl felly am ddim byd arall, gall effeithio’n drwm arnynt pan mae’n dod i lyfrau, a’u hatal rhag mentro wrth ddewis eu deunydd darllen.   Y grefft gyda datblygu darllenwyr yw annog pobl i roi cynnig ar rywbeth newydd a gwahanol, gan gynnig ambell i syrpreis, eu helpu a rhoi’r grym iddynt fagu hyder am eu dewisiadau darllen eu hunain, a mentro o bryd i’w gilydd, hyd yn oed!

Mae Datblygu Darllenwyr yn seiliedig ar y syniad mai’r darllenydd a ŵyr orau, ond hefyd ein bod ni fel llyfrgellwyr yn medru chwarae rhan bwysig wrth eu tywys i feysydd newydd. Y nod yw bod pobl yn cael mwy o fwynhad wrth ddarllen, bod ganddynt fwy o ddewis o bethau i’w darllen, a’u bod yn cael cyfle i rannu eu profiadau a hybu statws darllen fel gweithgarwch creadigol.

OHERWYDD SETLIAD SIOMEDIG GAN LYWODRAETH CYMRU, MAE RHAID I NI NEUD MWY O DORIADAU. MYNEGWCH EICH BARN…

Rydyn ni’n gwneud hyn yn y lle cyntaf drwy hyfforddi staff fel eu bod yn meddu ar y sgiliau i dywys darllenwyr drwy’r dewisiadau a’r cyfleoedd newydd.  Mae’r rhan fwyaf o staff Gwasanaethau Llyfrgell Wrecsam wedi cwblhau’r rhaglen Datblygu Darllenwyr yn y Rheng Flaen a luniwyd gan Opening the Book. Mae Opening the Book wedi datblygu dull newydd sbon o hyrwyddo llyfrau, drwy ddechrau gyda’r darllenydd a’r profiad o ddarllen, yn hytrach na’r awdur neu’r llyfr, hynny yw, ‘gwerthu’r crensian, nid y creision’.  Pa brofiad a gewch chi o ddarllen y llyfr hwn? Mae’r rhan helaeth o waith hyrwyddo’r llyfrgell wedi’i anelu at werthu’r profiad o ddarllen yn hytrach na llyfrau gan unrhyw awdur penodol, er enghraifft, llyfrau fydd yn gwneud ichi chwerthin, crïo neu ddisgyn mewn cariad.

Ni fydd staff y llyfrgell byth yn beirniadu beth mae rhywun yn ei ddarllen, a byth yn dwrdio neb am beidio â gorffen llyfr – mae bywyd yn rhy fyr ac mae gormod o lawer o lyfrau gwych i bobl eu darganfod.  Mae pawb yn hoffi ac yn mwynhau gwahanol lyfrau ar adegau gwahanol o’u bywydau, a’r peth pwysig yw peidio â beirniadu’n hunain am beidio â dilyn y ffasiynau diweddaraf ym myd darllen. Fe allwn ni eich helpu i ddod o hyd i’r llyfr gorau ichi ei ddarllen erioed.

Mae Sialens Ddarllen yr Haf ac Wythnos y Llyfrgelloedd yn gyfleoedd gwych i lyfrgelloedd hyrwyddo darllen i’r cyhoedd a datblygu darllenwyr.  Yn ystod gwyliau’r haf mae’r staff yn gweithio’n galed i sicrhau fod plant yn dal i ddarllen drwy eu helpu i ddewis llyfrau difyr, ac yn manteisio ar ddigwyddiadau fel Wythnos y Llyfrgelloedd i farchnata a hyrwyddo llyfrau a darllen i gymaint o bobl â phosib.  Mae Gwasanaethau Llyfrgell Wrecsam yn ategu cynlluniau cenedlaethol drwy greu ymgyrchoedd hyrwyddo rheolaidd ar themâu arbennig i hybu llyfrau a darllen i bobl o bob oed.

Mae datblygu darllenwyr yn cynyddu cynulleidfa’r llyfrgell ac yn chwalu rhwystrau.  Drwy feithrin hyder y darllenwyr a’u hannog i fentro a rhoi cynnig ar bethau newydd, mae’r diwydiant llyfrau i gyd yn elwa.  Bydd gweithlu medrus a hyderus yn creu gwell awyrgylch yn y llyfrgell, a gobeithiwn y bydd hynny’n helpu darllenwyr i ymlacio a mwynhau’r llyfrau.

Diolchiadau:

www.openingthebook.com

Mae rhaid i ni neud mwy o doriadau… a gofyn i dalwyr treth am fwy o arian. Ond cyn i ni fynd ymlaen, rydym ni yn eisiau’ch barn.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”http://www.yourvoicewrexham.net/KMS/elab.aspx?noip=1&CampaignId=766&SessionId=7W3XW8KTF6&language=cy”]DWI ISIO MYNEGI FY MARN[/button]

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” link=”https://newyddion.wrecsam.gov.uk”]DOES DIM OTS GEN I[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Wrecsam yn eu Cofio Wrecsam yn eu Cofio
Erthygl nesaf Peidiwch â chael eich dal gan bedleriaid ar garreg drws Peidiwch â chael eich dal gan bedleriaid ar garreg drws

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Guildhall
Cyngor Wrecsam yn ymateb i’r sylw diweddar yn y cyfryngau ar Lwyneinion a thomen wastraff Monsanto gerllaw
Arall
Awst 14, 2026
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Datgarboneiddio Wrecsam Y cyngor
Awst 14, 2026
Myfyrwyr yn Ysgol Maelor, Llannerch Banna, yn dathlu eu canlyniadau Safon Uwch heddiw! (13.8.26)
Diwrnod canlyniadau Safon Uwch 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr
Arall Busnes ac addysg Pobl a lle
Awst 13, 2026
Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Awst 12, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

wall proposal
ArallPobl a lle

Cyngor Wrecsam yn parhau i gydweithio â Solar Windows ar Fenter Ffenestri a Drysau Fawr

Mehefin 23, 2026
housing development plan
Arall

Ymgynghoriad cyhoeddus ar ailddatblygu Ffordd Rhosddu i ddechrau heddiw

Mai 18, 2026
Rhowch eich Barn ar Ddyfodol y Rhos
ArallPobl a lle

Rhowch eich Barn ar Ddyfodol y Rhos

Mawrth 17, 2026
'Amgueddfa Dau Hanner' Wrecsam yn coffáu pen-blwydd Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn 150 oed - mewn lluniau
30
Arall

‘Amgueddfa Dau Hanner’ Wrecsam yn coffáu pen-blwydd Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn 150 oed – mewn lluniau

Chwefror 4, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English