Wrth i ni fynd tuag at hinsoddau oerach y gaeaf, mae ein tîm Strydlun yn gweithio’n ddiflino i helpu i gadw ffyrdd y fwrdeistref sirol yn ddiogel.
Mae ein fflyd o graeanwyr yn barod i fynd allan ar eu rowndiau i sicrhau bod y gymuned yn gallu teithio’n ddiogel ar y ffyrdd.
Cadwch lygad allan
Tra bod ein staff ar lawr gwlad wrthi’n lledaenu’r graean, mae gennym aelodau o’r tîm yn cadw golwg ar y rhagolygon tywydd diweddaraf.
Mae hyn yn sicrhau y gallwn ragweld unrhyw gyfnodau posibl o amodau rhewllyd a bod yn barod atynt. Mae’n caniatáu inni roi graen i lawr yn barod i leihau’r effaith y mae’r rhew yn ei chael ar y ffyrdd a’r palmentydd.
Yn barod am unrhyw beth
Gyda’u llwybrau wedi’u cynllunio, mae ein graeanwyr yn barod unrhyw bryd i fynd allan ddydd neu nos. Gyda’r arwyddion cyntaf o’r gaeaf yn dechrau, byddwch chi’n dechrau gweld ein criw yn amlach ar y ffyrdd.
Er ein bod yn gwneud popeth o fewn ein gallu i gadw’r ffyrdd yn ddiogel i bawb, mae yna ychydig o awgrymiadau a thriciau y gallwch eu gwneud i gadw’ch hun yn ddiogel ar y ffyrdd y gaeaf hwn.
Yn ystod amodau mwy heriol y gaeaf, mae torri i lawr a damweiniau yn fwy cyffredin ar y ffyrdd. Byddwch yn ddiogel a chaniatáu amser ychwanegol ar gyfer teithiau bob amser. Gall cynllunio eich llwybr a chadw mewn cof ffyrdd sy’n debygol o gael eu clirio a’u graeanu wneud gwahaniaeth mewn gwirionedd.
Am yr holl ffyrdd gorau o gadw’ch hun yn ddiogel ar y ffyrdd y gaeaf hwn, edrychwch ar y dudalen Cyngor Gyrru’n y Gaeaf gwefan yr AA.
Dywedodd y Cynghorydd Terry Evans, Aelod Arweiniol dros Wasanaethau’r Amgylchedd “Wrth i’r gaeaf gyrraedd ac wrth i ni gyd baratoi ar gyfer cyfnod yr ŵyl, rhaid i ni gofio ei fod hefyd yn ddechrau tymor prysur iawn, yn enwedig i ddefnyddwyr y ffordd. Mae ein graeanwyr yn gweithio’n galed iawn i sicrhau bod ein ffyrdd mor ddiogel ag y gallant fod i’n holl drigolion. Rwyf am ddiolch i’n tîm am eu hymdrechion diwyro”.


