Mae Wrecsam yn torri tir newydd fel y cyngor cyntaf yn y DU i rymuso bron 100 o fusnesau yng nghanol y ddinas gyda dulliau hysbysebu digidol deinamig.
Trwy bartneriaeth a ddatblygwyd gyda phlatfform technoleg trefi blaenaf y DU, VZTA Smart Towns, mae busnesau nawr yn gallu diweddaru cynnwys ar sgriniau digidol y ddinas mewn amser real – gan eu helpu i lenwi apwyntiadau salon gwag, gwerthu stoc ddarfodus, a hyrwyddo cynigion ar alw.
Mae’r dull trawsnewidiol hwn yn lefelu’r cae chwarae, gan roi mynediad i fusnesau bach i’r math o offer digidol y mae cadwyni mawr wedi’u cymryd yn ganiataol ers amser maith.
Wedi’i ariannu gan raglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru, mae’r prosiect hwn yn adeiladu ar lwyddiant ap VZTA Wrecsam, a lansiwyd y llynedd, ac mae’n gam mawr ymlaen yn y gwaith o drawsnewid Wrecsam yn Ddinas Glyfar.
Mae Meddalwedd Sgriniau Digidol VZTA, a ddatblygwyd gan gwmni NearMeNow o Gymru, yn integreiddio dulliau hysbysebu digidol, canfod ffyrdd a hyrwyddiadau sy’n seiliedig ar apiau’n rhwydd mewn un platfform hawdd ei ddefnyddio. Trwy harneisio’r dechnoleg hon, eu nod yw sicrhau nad oes unrhyw gymuned yn cael ei gadael ar ôl yn y trawsnewidiad i gyrchfannau digidol.
Dywedodd Victoria Mann, Prif Swyddog Gweithredol NearMeNow, y cwmni sy’n gyfrifol am VZTA Smart Towns: “Mae Wrecsam wir yn ymgorffori ethos VZTA, sef ‘un ddinas, un ateb’. Mae ein sgriniau digidol a’n cyfuniad o apiau yn gam mawr ymlaen yn y broses o drawsnewid canol trefi a dinasoedd yn ddigidol – nid yn unig o ran technoleg, ond o ran sut rydym yn grymuso busnesau bach.
“Mae’n hynod werth chweil gwylio busnes yn uwchlwytho ei lun cynnyrch cyntaf a’i weld yn ymddangos ar unwaith ar sgriniau stryd fawr digidol ac mewn cartrefi trwy’r ap VZTA. Gyda diweddariadau hysbysebion amser real a dim cost i’r busnesau, gallan nhw ymgysylltu â chwsmeriaid ar eu telerau eu hunain, nid pan fo algorithmau cyfryngau cymdeithasol yn ei benderfynu.
“Trwy weithio law yn llaw â chynghorau fel Wrecsam, rydym yn parhau i ddatblygu yn ôl anghenion busnesau lleol, gan gyd-greu platfform sy’n cadw trefi’n fywiog, yn gystadleuol ac yn gysylltiedig.”

Adeiladu Wrecsam Fwy Clyfar
Mae ymrwymiad Wrecsam i arloesi yn glir – dyma’r cyngor cyntaf yng Nghymru i benodi Rheolwr Datblygu Trefi Clyfar, gan ei wneud yn arweinydd wrth greu canol dinas cysylltiedig, ffyniannus.
O dan arweinyddiaeth David Evans, Rheolwr Trefi Clyfar, mae’r cyngor wedi gweithio’n ddiflino i sicrhau bod gan fusnesau bach fynediad i offer digidol arloesol sy’n eu helpu i ffynnu. Mae cyflwyno sgriniau digidol i gyd-fynd â’r ap VZTA yn rhoi sawl ffordd i fusnesau hyrwyddo eu hunain ac ymgysylltu â’u cymuned.
Dywedodd David Evans, Rheolwr Trefi Clyfar: “Pan oeddwn yn ystyried y posibilrwydd o integreiddio’r meddalwedd ap gyda’n sgriniau digidol yn gyntaf, roeddwn i’n gwybod y byddai angen cydweithrediad agos ag arbenigwyr.
“Bu tîm VZTA yn gweithio’n ddiflino i addasu eu technoleg i ddiwallu ein hanghenion, a heddiw rydym yn falch o gynnig mynediad i fusnesau canol y ddinas i’r datrysiad digidol arloesol hwn am ddim. Nid yw’r prosiect hwn yn ymwneud â thechnoleg yn unig; mae’n ymwneud â chreu cyfleoedd i fusnesau a meithrin cymuned fywiog, gysylltiedig. Mae tîm VZTA wedi dangos eu hymrwymiad i adfywio, gan helpu economïau lleol i ffynnu a sicrhau bod canol ein trefi yn parhau i fod yn gystadleuol ac yn wydn.”
Ychwanegodd Nigel Williams, yr Aelod Arweiniol dros yr Economi, Busnes a Thwristiaeth: “Yn y cyfnod heriol presennol i fusnesau ar ein strydoedd mawr, rwy’n falch o ddweud mai Cyngor Wrecsam yw’r cyntaf i gynnig hysbysebu am ddim trwy ein byrddau digidol sydd newydd eu gosod.
“Bydd y fenter hon yn darparu platfform i fusnesau canol y ddinas hysbysebu cynigion a hyrwyddiadau, a chodi eu proffiliau. Rwy’n annog busnesau nad ydynt wedi cofrestru eto gyda’n ap VZTA Wrecsam i gysylltu â ni a manteisio i’r eithaf ar y cyfle hwn. Hoffwn hefyd ddiolch i’n swyddogion a thîm VZTA am eu gwaith caled wrth ddatblygu’r dechnoleg hon a’n helpu i arwain y ffordd i ddod yn ‘ddinas glyfar’.
“Yn olaf, diolch i gyllid grant Trefi Trawsnewid Llywodraeth Cymru am eu cymorth parhaus.”
Gweledigaeth ar gyfer y Dyfodol
Mae cyflwyno sgriniau digidol yn garreg filltir allweddol yng Ngweledigaeth Wrecsam 2029 i ddod yn ganolfan ddiwylliannol ac economaidd. O gynnal Cynhadledd Trefi Clyfar gyntaf Cymru i weithredu strategaethau adfywio hirdymor, mae Wrecsam yn gosod y safon ar gyfer dinasoedd clyfar ledled y DU.
Trwy gyfuno proses gwneud penderfyniadau sy’n cael ei gyrru gan ddata ag atebion blaengar, mae Wrecsam yn profi y gall technoleg glyfar drawsnewid economïau lleol.
Wrth i’r cyngor barhau i arloesi, mae trefi a dinasoedd eraill yn edrych ar Wrecsam fel model ar gyfer adeiladu cymunedau mwy cysylltiedig, cynaliadwy a pharod i’r dyfodol.
