Yn dilyn ailddyrannu cyllid, bydd tîm Busnes a Buddsoddi Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn ail-agor Grant Busnes Wrecsam am 12pm ar Dydd Iau 18 Gorffennaf 2024 ar gyfer datganiadau o ddiddordeb. Mae’r cyfnod sydd ar gael i ddatgan diddordeb yn debygol o fod yn un byr iawn.
Os oes gennych chi ddiddordeb cyflwyno Datganiad o Ddiddordeb, defnyddiwch yr amser yma i baratoi drwy ddarllen gwybodaeth ynglŷn â meini prawf a gwariant cymwys y cynllun, amcanion a phryd y mae angen cyflawni’r allbynnau a’r broses ymgeisio. Byddwch hefyd yn gweld y cwestiynau y bydd arnoch chi angen eu hateb fel rhan o Ddatganiad o Ddiddordeb dan yr adran cyflwyno datganiad o ddiddordeb.
I gyflwyno Datganiad o Ddiddordeb, bydd yn rhaid i’r prif ymgeisydd gofrestru ar gyfer FyNghyfrif (fe allwch chi wneud hyn rŵan) er mwyn rheoli cais y fenter.
Sylwch: Mae’n rhaid cwblhau’r prosiectau erbyn 31 Hydref 2024. Bydd yn rhaid i ymgeiswyr llwyddiannus (sy’n derbyn cynnig grant ffurfiol), gyflwyno ffurflen hawlio grant (erbyn 31 Hydref 2024 fan bellaf). Er mwyn hawlio’r grant yn ôl-weithredol, dylai’r ffurflen hawlio gynnwys digon o dystiolaeth fod yr allbynnau a gytunwyd arnynt wedi’u cyflawni a bod y prosiect wedi’i gwblhau yn unol â’r amodau a’r telerau.
Mae’r cyllid ar gyfer y grant hwn yn cael ei ddarparu gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch