Mae Adran Dai Cyngor Wrecsam wedi ychwanegu 11 cerbyd trydan newydd at ei fflyd, a fydd yn cael eu defnyddio ar gyfer gwaith atgyweirio a dyletswyddau eraill ar y safle.
Mae’r cerbydau newydd hyn yn brawf o ymrwymiad parhaus y Cyngor i effeithlonrwydd ynni a lleihau ein hallyriadau carbon.

Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, Aelod Arweiniol dros Dai a Newid Hinsawdd, “Mae cyflwyno’r cerbydau trydan hyn yn gam pwysig arall wrth leihau ein hôl troed carbon trwy ddisodli ein fflyd gyda cherbydau effeithlon modern.”