Mae Adran Dai Cyngor Wrecsam bellach yn falch o gyhoeddi bod eu hail brosiect Adnewyddu Tai Gwarchod yn Llys y Mynydd yn Rhos wedi ei gwblhau, ac yn darparu lle modern i bobl dros 60 oed fyw’n annibynnol.
Mae Adran Dai Cyngor Wrecsam wedi trafod gyda deiliaid contract blaenorol Llys y Mynydd trwy gydol y broses ac maent yn edrych ymlaen at eu croesawu’n ôl i’w cartref newydd.
Ar ôl cwblhau’r gwaith, rydym hefyd wedi croesawu ychydig o ddeiliaid contract newydd yma, i gartref modern, sy’n berffaith ar gyfer byw’n annibynnol.
Mae’r rhaglen adnewyddu yn cynnwys gwella maint a hygyrchedd y rhandai ac ailfodelu i ddarparu digon o le a sicrhau bod pawb yn gyffyrddus.
Blaenoriaeth fawr ar gyfer y cynlluniau oedd darparu cartrefi cynnes effeithlon o ran ynni, felly mae ffenestri gwydr triphlyg a phympiau gwres yr awyr wedi eu gosod.
Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, Aelod Arweiniol Tai, “Mae’r gwaith adnewyddu Tai Gwarchod yn datblygu’n dda ac rydym yn falch o fod wedi cwblhau ein hail gynllun adnewyddu. Rydym wedi cael adborth cadarnhaol ynglŷn â’r gwaith gan y deiliaid contract newydd a’r rhai sydd wedi dychwelyd.
Mae hwn yn amser cyffrous i’r adran dai wrth i ni barhau i symud ymlaen gyda’r gwaith adnewyddu nesaf mewn dau gynllun arall sydd wedi eu cymeradwyo fel rhan o’n cyllideb gyfalaf. Edrychwn ymlaen at eich diweddaru ynglŷn â’r rhain.”
Beth sydd nesaf ar gyfer y prosiect Adnewyddu Tai Gwarchod?
Y cynllun nesaf i’w adnewyddu yw Maes y Capel yng Nghoedpoeth, gyda’r un cynlluniau adnewyddu mewn golwg Mae’r gwaith dymchwel wedi dechrau yma, a byddwn yn parhau i’ch diweddaru ar ddatblygiad hyn.
Yn y cyfamser, mae Cyngor Wrecsam wedi penodi Read Construction i wneud y gwaith adnewyddu ar ein pedwerydd cynllun yn Wisteria Court, Wrecsam.
Yn flaenorol roedd Wisteria Court yn adeilad a adeiladwyd yn nechrau’r 1980au, gyda 26 rhandy. Felly, mae Cyngor Wrecsam yn anelu i addasu’r hen adeilad hwn i greu amgylchedd modern a chroesawgar. Rydym yn rhagweld y bydd y gwaith yn dechrau ddiwedd mis Mawrth.
Mae Read Construction wedi bod yn rhan o’n gwaith adnewyddu Tai Gwarchod yn flaenorol, ac wedi cwblhau’r gwaith i safon uchel ac felly rydym yn falch o weithio gyda nhw eto.
Ydych chi erioed wedi ystyried byw mewn Tai Gwarchod?
Os hoffech chi gael eich ystyried ar gyfer Tai Gwarchod, neu’n adnabod rhywun a fyddai’n addas ar gyfer hyn, llenwch ffurflen gais o un o’n swyddfeydd ystadau. Gellir cysylltu neu ymweld â’r Swyddfa Ystâd