Erthygl Gwadd – Tennis Wales
Mae gêm arall heblaw am bêl-droed yn rhoi chwaraeon Wrecsam ar y map, wrth i dwrnamaint tennis ddod i’r ddinas.
Y gwanwyn hwn – Ebrill a Mai – mae Wrecsam ar fin croesawu tair cystadleuaeth tennis cenedlaethol a rhyngwladol, wedi’u cefnogi gan ddigwyddiadau tennis am ddim ‘rhowch gynnig arni’ ar gyfer y gymuned leol.
Taith Tennis – Ieuenctid Ewrop – yn cael ei chynnal yng Nghanolfan Dennis Wrecsam (1 – 8 Ebrill) – yw’r cyntaf o dri digwyddiad tennis rhyngwladol sy’n cael eu cynnal yn y ddinas. Disgwylir dros 600 o chwaraewyr o bob cwr o’r byd, mae Wrecsam yn cynrychioli rownd Cymru o’r gyfres Ewrop gyfan.
Bellach yn ei 33au blwyddyn, mae’r Daith Ieuenctid wedi dod yn dwrnamaint o ddewis ar gyfer lansio sawl gyrfa tennis llwyddiannus. Efallai’r rhai mwyaf amlwg y mae’r Daith Ieuenctid wedi’i gyflwyno yw’r chwaraewyr o’r radd flaenaf fel Justine Henin, Roger Federer, Caroline Wozniacki a Syr Andy Murray.
Mae’r chwaraewyr yng nghystadleuaeth Tennis Ewrop eleni sy’n dilyn yn ôl troed eu harwyr yn y byd tennis yn gobeithio cyflawni pwyntiau safle Ewropeaidd.
Yn hedfan y faner i Gymru bydd y rhyfeddodau tennis, Awen Gwilym-Davies a Niall Pickerd-Barua o Gaerdydd yn edrych i gael llwyddiant yn y gystadleuaeth. Er mai dyma eu tro cyntaf i gystadlu’n rhyngwladol yn 2023, dydi Awen na Niall ddim yn ddieithriaid i gystadleuaeth ryngwladol – gyda’r ddau ohonyn nhw’n cystadlu yn y gystadleuaeth Junior Orange Bowl Championships yn yr UDA mis Rhagfyr diwethaf.
Dywedodd Awen: “Mae’n gyfle gret i chwaraewyr o Gymru chwarae yn erbyn y goreuon o DU ac ymhellach i ffwrdd sy’n gwneud digwyddiadau Tennis Ewrop mor arbennig. Bydd yn gyfle i rannu straeon, profiadau a dysgu oddi wrth ein gilydd. “Ac os ydy Ryan a Rob eisiau galw draw ar ôl y pêl-droed, bydden ni’n hapus i gael cnoc gyda nhw hefyd! “Pob lwc arbennig iawn i holl chwaraewyr Cymru!”
Dywedodd Niall: “Dwi’n edrych ymlaen at chwarae eto yn Nhennis Ewrop yn Wrecsam. “Enillais y digwyddiad dan 12 blwyddyn ddiwethaf, felly mae’n amlwg fy mod yn awyddus i gystadlu eto. “Dwi’n gwybod bydda fe’n galed, oherwydd fyddwn yn chwarae mewn oedran uwch tro hon, ond dwi am neud fy ngorau.
Gan gynnig cyfle pellach i chwaraewyr i gystadlu ar lefel o berfformiad uchel bydd Canolfan Tennis Wrecsam hefyd yn cynnal y twrnamaint â’r sgôr uchaf ym mis Ebrill – cystadleuaeth agored i ieuenctid y Gymdeithas Tennis Lawnt (LTA)(Lawn Tennis Association) Cystadleuaeth Agored Cymru i Ieuenctid (8 – 16 Ebrill).
Mae chwaraewyr o bob cwr o’r DU – bydd categorïau o dan 10 i dan 18 – yn cael y cyfle i brofi eu hergydion pwt a phigo pwyntiau safle Prydain LTA wrth iddyn nhw ymdrechu i fod yn chwaraewyr gorau Cymru; yn dilyn chwaraewyr fel ‘wildcard’ Wimbledon yn 2021, Mimi Xu a rhif 1 Cymru, Evan Hoyt.
Mae amserlen twrnamaint tennis yn parhau i fis Mai wrth i’r cyrtiau rhyngwladol agor unwaith eto gan groesawu chwaraewyr rhyngwladol i Wrecsam ar gyfer Taith Ieuenctid y Byd ITF o 20 – 26 Mai.
Meddai Rheolwr Cystadlaethau a Digwyddiadau Tennis Cymru, Mark Lewis: “Mae Canolfan Dennis Wrecsam yn gyfleuster cenedlaethol a rhyngwladol bwysig. Mae’r tri thwrnamaint sydd ar y gweill yn mynd i arddangos y gorau mewn tennis ieuenctid gan amlygu fod tennis Cymru yn ffynnu ac yn parhau i gyfrannu at gymunedau chwaraeon lleol, cenedlaethol a rhyngwladol.
“Edrychwn ymlaen at weld llawer o chwaraewyr eraill yn y digwyddiadau hyn yn mynd ymlaen i serennu yng nghystadlaethau i chwaraewyr hŷn.”
I gefnogi a chryfhau’r byd tennis ymhellach yn y gymuned leol – sy’n croesawu twrnameintiau gyda breichiau agored – mae Tennis Cymru, mewn partneriaeth â Chanolfan Dennis Wrecsam a Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau am ddim ddiweddarach yn y flwyddyn lle bydd plant a phobl ifanc yn gallu codi raced a rhoi cynnig ar dennis.
Bydd rhagor o wybodaeth ar ddiwrnodau agored a chyrtiau dros dro yn cael ei gyhoeddi ar gyfryngau cymdeithasol Tennis Cymru: Twitter @tenniswales; Facebook @TennisWales; Instagram @tennis_wales
Mae Tennis Cymru Cyf. yn Gorff Llywodraethu Cenedlaethol i Dennis yng Nghymru. Rydym yn sefydliad dielw sy’n gysylltiedig â Chymdeithas Tennis Lawnt Prydain Fawr. Rydym yn gweithio mewn partneriaeth tuag at weledigaeth ‘ bod tennis ar gael i bawb <https://www.lta.org.uk/globalassets/counties/wales/documents—policiesprocedures/tennis-opened-up-across-wales-2020-2024.pdf>’ yng Nghymru. Mewn partneriaeth â’n noddwyr a Chwaraeon Cymru, rydym yn cydweithio i wneud tennis yn berthnasol, hygyrch, croesawgar a llawn mwynhad.
Gwybodaeth Swyddog i’r Wasg: chris.pearce@tenniswales.org.uk 07932 417875
Gwefan: www.tenniswales.org.uk
Wedi methu casgliad bin? Rhowch wybod i ni ar-lein – mae’n hawdd.
RHOWCH WYBOD AM GASGLIAD BIN A FETHWYD