Fel rhan o Wythnos Ymwybyddiaeth o Wastraff Bwyd rydym ni’n codi ymwybyddiaeth pobl o sut mae gwastraff bwyd yn cyfrannu at newid hinsawdd a sut y gallwch chi leihau gwastraff bwyd ac arbed arian pan fyddwch chi’n siopa.
Yn y DU rydym ni’n taflu 6.6 miliwn tunnell o wastraff bwyd pob blwyddyn. Mae’r gwastraff yma’n gyfrifol am bron i 25 miliwn tunnell o allyriadau CO2, sef 5.4% o allyriadau’r DU.
Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan eich cyngor lleol – cofrestrwch i dderbyn bwletinau ar ffurf e-bost.
Pan ydym yn gwastraffu bwyd, mae’r holl ynni a dŵr a ddefnyddiwyd i dyfu, cynaeafu, cludo a phacio’r bwyd yn mynd yn wastraff.
Mae’r rhan fwyaf o’r bwyd yma, tua 4.5 miliwn tunnell, yn fwyd y gallem ni fod wedi’i fwyta ac mae’n dod i oddeutu £14 miliwn o bunnau – sef £60 y mis i deulu gyda dau o blant! Neu, mewn geiriau eraill, mae’r holl fwyd a diod sy’n cael ei wastraffu yn y DU yn cael ei gynhyrchu mewn ardal yr un maint â Chymru.
Mewn arolwg diweddar gan Hoffi Bwyd Casáu Gwastraff gwelwyd fod 81% o bobl yn pryderu ynghylch newid hinsawdd ond dim ond 32% ohonyn nhw yn gweld cysylltiad clir rhwng hynny a gwastraff bwyd.
Meddai’r Cyng. David A Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant, “Bydd pob aelwyd yn gwastraffu rhywfaint – fel crwyn llysiau ac esgyrn, ac mae’n rhaid i ni wneud yn siŵr bod y pethau yma’n cael eu hailgylchu.
“Yma yn Wrecsam rydym ni’n gallu ailgylchu ein gwastraff bwyd ac rydym ni’n darparu cadis bwyd a leinars i wneud hynny’n haws. Mae llawer o gartrefi yn manteisio ar y gwasanaeth yma ac yn ailgylchu ond nid da lle gellir gwell.
Os gwelwch yn dda, os nad ydych chi’n ailgylchu eich bwyd yn barod, ystyriwch ddechrau gwneud hynny’r wythnos yma. Bydd yn ein helpu ni i fod yn garbon niwtral erbyn 2030.”
Drwy gydol yr wythnos byddwn yn darparu rhagor o wybodaeth i chi am ffyrdd y gallwch chi leihau eich gwastraff bwyd. Felly cadwch eich llygaid ar agor ac efallai y gallwch chi arbed arian a bod yn ecogyfeillgar ar yr un pryd.”
Derbyniwch ein prif straeon dros e-bost.
TANYSGRIFWYCH