Mae llawer o bethau y gallwch eu gwneud mewn pum munud…

… gwneud paned o de
… berwi wy
A…..chofrestru i bleidleisio!

Ac os ydych yn byw yng Nghymru gallwch bleidleisio ar ôl i chi droi’n 16.

Os ydych yn 16, neu’n 16 cyn 5 Mai, gallwch bleidleisio yn etholiadau lleol 2022.

Os nad ydych eisoes wedi cofrestru, beth am ddod i safle Wrecsam (Mawrth 14-16) neu Ffordd Bersham (Mawrth 17 a 18) Coleg Cambria i wybod mwy. Gallwch gofrestru i bleidleisio tra rydych yno, yn ogystal â dysgu mwy am beth i’w wneud ar ddiwrnod y bleidlais a beth mae pleidleisio yn ei olygu i chi.

Dewch i weithio ym maes gofal cymdeithasol, er mwyn eich cymuned.

Dewch i’n gweld ar y dyddiadau canlynol yn y lleoliadau isod:

Coleg Cambria, Iâl
Mawrth 14-16
Tu allan i wasanaethau myfyrwyr
Tu allan i’r ffreutur

#MaeDyBleidlaisYnCyfri

Paid â’i golli.

Derbyniwch ein prif straeon dros e-bost.

TANYSGRIFWYCH