Bydd gweithwyr yn rhoi wyneb newydd ar gylchfan arall yng nghanol tref Wrecsam yn ystod mis Medi.
Cwblheir y gwaith yn ystod cyfnodau llai prysur i sicrhau na fydd y gwaith yn amharu gormod ar ddefnyddwyr y ffordd, tra bod gwelliannau’n cael eu gwneud i borth pwysig arall i mewn i Wrecsam.
Bydd y gwaith yn dechrau ddydd Llun, 11 Medi ac yn parhau tan ddydd Gwener, 15 Medi rhwng 7.00 pm ac 11.00 pm
GALLWCH GAEL NEWYDDION A GWYBODAETH AR UNWAITH GAN GYNGOR WRECSAM GYDA FY NIWEDDARIADAU.
Bydd Ffordd Ddyfrllyd ar gau o Ffordd Bradle hyd at Gylchfan Y Werddon i’r ddau gyfeiriad yn ystod y gwaith. Bydd mynediad i breswylwyr ar Ffordd Ddyfrllyd drwy Ffordd Bellevue / Ffordd Jiwbili.
Fe fydd Ffordd Bellevue ar gau o’r Werddon. Bydd y gorchymyn unffordd sydd ar y ffordd hon ar hyn o bryd yn cael ei godi er mwyn caniatáu mynediad at Ffordd Bellevue a Ffordd Jiwbili o gylchfan Ffordd Bradle.
Fe fydd y ffordd yn cau dros dro a’r newidiadau i’r gorchymyn unffordd yn dod i rym am 7:00pm ddydd Llun 11 Medi, tan fydd y gwaith wedi’i gwblhau ddydd Gwener 15 Medi.
Dywedodd y Cynghorydd David A. Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant:
“Mae gwaith ail-wynebu ffyrdd o hyd yn amharu rhywfaint ar breswylwyr a defnyddwyr ffordd ond rydym yn ceisio sicrhau cyn lleied o amhariad â phosibl drwy weithio gyda’r nos. Byddwch yn amyneddgar gyda ni yn ystod y cyfnod hwn ac os yn bosibl, ceisiwch osgoi’r ardal tra bydd y gwaith yn cael ei gwblhau.”
Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan Gyngor Wrecsam yn syth bin drwy Fy Niweddariadau.
COFRESTRWCH FI