Rhwng 28 Mawrth – 2 Ebrill, mae’n Wythnos Derbyn Awtistiaeth, ac mae’r dathliad yn 60 oed eleni.
Yn ystod yr wythnos, byddwn yn amlygu rhai o’r prosiectau gwych mae Cyngor Wrecsam yn eu cefnogi yn ogystal â’r hyfforddiant sydd ar gael yn Wrecsam i helpu i greu cymdeithas sy’n gweithio i bobl awtistig.
Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan eich cyngor lleol – cofrestrwch i dderbyn bwletinau ar ffurf e-bost.
Mae Cyngor Wrecsam yn gweithio’n agos gyda phartneriaid a sefydliadau ar draws y fwrdeistref sirol i godi ymwybyddiaeth o’r heriau mae pobl ag awtistiaeth yn eu hwynebu bob dydd, yn ogystal ag edrych ar ffyrdd o wella gwasanaethau’n barhaus i bobl ag awtistiaeth a’u teuluoedd.
Mae cwrs hyfforddiant ar-lein am ddim i godi ymwybyddiaeth o awtistiaeth hefyd, sydd ar gael i fusnesau lleol ac unigolion. Gobeithir y bydd mwy o bobl yn cwblhau’r hyfforddiant a chreu rhagor o gyfleusterau sy’n hygyrch i bobl sy’n byw gydag awtistiaeth a’u teuluoedd yn Wrecsam.
Dywedodd Alwyn Jones, Prif Swyddog Gofal Cymdeithasol yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, “Rydym wedi bod yn gweithio gydag aelodau o’r gymuned fusnes leol, rhieni, gofalwyr a phobl ar y sbectrwm awtistig i ddatblygu cymunedau sy’n ymwybodol o awtistiaeth ar draws y sir, gan ganiatáu i bobl sy’n byw gydag awtistiaeth a’u teuluoedd gael mynediad i wasanaethau a chyfleusterau rydym ni i gyd yn eu cymryd yn ganiataol, a’u mwynhau.
“Mae’n wych bod modd i mi ddweud bod pob un o’n llyfrgelloedd wedi cwblhau hyfforddiant a’u bod yn Ymwybodol o Awtistiaeth, ac rydym wedi gwneud yr hyfforddiant yn orfodol i holl staff y cyngor yn ddiweddar. Mae’n gwneud gwahaniaeth mawr i bobl sy’n byw gydag awtistiaeth a’u teuluoedd, ac rydym yn edrych ymlaen at weld rhagor o fusnesau a sefydliadau lleol yn dod i gwblhau’r hyfforddiant a bod yn Ymwybodol o Awtistiaeth.”
Hyfforddiant Ymwybyddiaeth o Awtistiaeth
Mae’r cynllun Ardystio Ymwybyddiaeth o Awtistiaeth wedi’i anelu at bawb sy’n dymuno cael gwell ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o awtistiaeth. Ar ôl cwblhau’r hyfforddiant, byddwch chi’n cael tystysgrif bersonol i’w lawrlwytho.
Gallwch gael mynediad i’r hyfforddiant ar-lein am ddim ar ymwybyddiaeth o awtistiaeth yma.
Dy Le Di
Mae Dy Le Di yn elusen gofrestredig sy’n gweithio’n agos gyda Chyngor Wrecsam i ddarparu cefnogaeth i oedolion ifanc a phlant ar y sbectrwm awtistig a’u teuluoedd. Mae rhagor o wybodaeth am Dy Le Di ar gael trwy eu gwefan (add link)
Gŵyl Gelf Dy Le Di
Ymunwch â ni ddydd Sadwrn, 2 Ebrill rhwng 12pm – 4pm am ddigwyddiad difyr i ddathlu cymuned Dy Le Di ar Ddiwrnod Awtistiaeth y Byd. Dy Le Di fydd yn cynnal y digwyddiad, yn Yellow a Blue.
Bydd y digwyddiad yn agor gyda lansio albwm newydd Dy Le Di, ‘Songs out of the ordinary’, a bydd hefyd yn cynnwys cerddoriaeth, celf ac arddangosfeydd ffotograffiaeth a gweithdai rhyngweithiol.
Mae’r digwyddiad hwn yn cynnwys y teulu cyfan. Bydd modd benthyg teclynnau diogelu’r clustiau.
Os hoffech ragor o wybodaeth am y gwasanaethau a chyngor sydd ar gael ar draws Cymru, ewch i
Gwefan Cymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth
Derbyniwch ein prif straeon dros e-bost.
TANYSGRIFWYCH