Erthygl Gwadd: NEWCIS
Mae Wythnos Gofalwyr yn ymgyrch flynyddol i godi ymwybyddiaeth o ofalu, tynnu sylw at yr heriau y mae gofalwyr di-dâl yn eu hwynebu a chydnabod y cyfraniad y maent yn ei wneud i deuluoedd a chymunedau ledled y du. Mae hefyd yn helpu pobl nad ydynt yn meddwl amdanynt eu hunain fel rhai sydd â chyfrifoldebau gofalu i nodi eu bod yn ofalwyr a chael mynediad at gymorth y mae mawr ei angen.
Eleni y thema yw ‘Rhoi Gofalwyr ar y Map’ gan amlygu cyfraniadau amhrisiadwy gofalwyr ledled y DU a sicrhau bod eu lleisiau’n cael eu clywed yn uchel ac yn glir.
P’un a ydych eisoes wedi cofrestru gyda ni neu’n newydd i fod yn ofalwr di-dâl, dewch i siarad â ni am ein gwasanaethau cymorth wedi’u teilwra.
Gofalwr yw rhywun sy’n darparu gofal a chymorth di-dâl i aelod o’r teulu neu ffrind sydd ag anabledd, salwch, cyflwr iechyd meddwl, dibyniaeth, neu sydd angen cymorth ychwanegol wrth iddynt dyfu’n hŷn. Nid yw’n rhywun sy’n gwirfoddoli neu’n cael ei gyflogi i ddarparu cymorth.
Yn ystod yr wythnos, byddwn allan yn y gymuned yn codi ymwybyddiaeth ac yn rhannu gwybodaeth am gymorth i ofalwyr di-dâl.
Beth sydd ymlaen?
Clinig Cynllunio Ffioedd Gofal gyda Celtic Financial Planning Ltd.
Dydd Gwener 14 Mehefin, 9yb – 12yp yn NEWCIS, Yr Wyddgrug
Mae’r clinig hwn wedi’i gynllunio’n arbennig ar gyfer gofalwyr fel chi, gan gynnig arweiniad pwrpasol ar strategaethau i liniaru costau gofal, arweiniad craff ar dalu costau gofal a chynllunio cynhwysfawr ar gyfer rheoli ffioedd gofal. Cysylltwch â NEWCIS i archebu.
Clwb Rygbi’r Rhyl – Digwyddiad Gwybodaeth
Sesiwn Galw Heibio a Holi ac Ateb Ar-lein
Dydd Iau 13 Mehefin 1pm – 3pm
E-bostiwch enquiries@newcis.org.uk am y ddolen i ymuno.
Stondinau Gwybodaeth
Byddwn allan yn y gymuned yn codi ymwybyddiaeth o ofalwyr di-dâl. Edrychwch amdanom ym Marchnad yr Wyddgrug, archfarchnadoedd lleol, ac ysbytai cymunedol lleol.
Dydd Mercher 12fed Mehefin yn Ysbyty Treffynnon Dydd Iau 13eg Mehefin yn Ysbyty’r Wyddgrug
Dydd Iau 13 Mehefin 10yb – 2yp yn y cyntedd canolog yn Ysbyty Glan Clwyd, ynghyd â Gwasanaeth Cynnal Gofalwyr
Galw Heibio i De Prynhawn
Dydd Mawrth 11 Mehefin 10yb – 2yp yn NEWCIS, Wrecsam Dydd Mercher 12 Mehefin 10yb – 2yp yn NEWCIS, Yr Wyddgrug
Dywedodd Claire Sullivan, Prif Swyddog Gweithredol NEWCIS, “Yma yn NEWCIS rydym yn ymuno â llawer o sefydliadau ledled y wlad i helpu a chefnogi gofalwyr i wybod eu hawliau a defnyddio’r wybodaeth y gallwn ei darparu i gefnogi gofalwyr yn eu rolau gofalu.
Mae NEWCIS wedi’i gomisiynu gan Gyngor Sir Ddinbych, Cyngor Sir y Fflint a Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam ac mae’n gweithio ar y cyd â phob awdurdod lleol i nodi cymaint o ofalwyr di-dâl cudd â phosibl yn ogystal â chefnogi’r rhai sydd eisoes yn hysbys i ni.
Gall NEWCIS helpu, mae gan ein gwefan lawer o wybodaeth a fydd yn eich helpu; ewch i www.newcis.org.uk“
I gael cymorth gyda’ch rôl gofalu, i gael mynediad at ein gwasanaethau neu i archebu lle ar ddigwyddiad sydd wedi’i gynnwys yn yr erthygl hon, cysylltwch â NEWCIS ar 01352 752525 neu e-bostiwch enquiries@newcis.org.uk