Bydd y B5605 yn Nhrecelyn yn ailagor yn gyfan gwbl ddydd Sadwrn, 4 Hydref ar ôl cwblhau prosiect peirianneg mawr i atgyweirio’r ffordd.
Cafodd y ffordd ei difrodi’n ddifrifol yn ystod Storm Christoph yn 2021 pan wnaeth rhan o lan yr afon chwalu.
Ers hynny, mae Cyngor Wrecsam – gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru – wedi gweithio gyda phartneriaid peirianneg Jones Bros Ltd i atgyweirio’r llwybr yn ofalus, gan ailagor cyswllt pwysig rhwng cymunedau Cefn Mawr a’r Waun.
Mae hwn wedi bod yn waith atgyweirio mawr a chymhleth, a hoffem ddiolch i Jones Bros Ltd am eu harbenigedd a’u hymrwymiad i’r prosiect.
Pan fyddwch chi’n gyrru ar hyd y ffordd, mae popeth yn edrych bron yr un fath ag yr oedd o’r blaen, ac mae’n anodd gweld maint a chwmpas y gwaith peirianneg sydd wedi cael ei wneud.
Ond o dan yr wyneb, mae llawer iawn o waith wedi cael ei wneud a gwaith peirianneg cymhleth iawn.
Mae wedi bod yn brosiect mawr, ac rydym yn falch iawn o weld y ffordd bwysig hon yn agor eto.


