Mae oriel Tŷ Pawb wedi ei thrawsnewid yn faes chwarae antur enfawr fel rhan o’r arddangosfa Gwaith-Chwarae ac mae wedi bod yn boblogaidd iawn gyda dros 8623 o ymwelwyr ers agor ym mis Awst.
Mae’n faes chwarae gwbl ryngweithiol a ddyluniwyd ar y cyd â’r artistiaid, Ludicology, staff Tŷ Pawb, ein Tîm Cefnogi Chwarae ac Ieuenctid a meysydd chwarae antur Wrecsam. Mae’r maes chwarae yn cynnwys bob dim i blant allu gwneud yr hyn maent yn ei wneud orau – chwarae.
OS YDYM NI’N CAEL SETLIAD GWAEL, BYDD YN RHAID I NI YSTYRIED TORIADAU PELLACH. DWEUD EICH DWEUD…
Archebwyd tunelli o dywod ar gyfer yr arddangosfa a hyn yn sicr oedd uchafbwynt yr arddangosfa – er rydym yn amau bod llai o dywod yno erbyn hyn. 🙂
Mae’r arddangosfa yn cau ar 27 Hydref, felly dim ond ychydig ddyddiau sydd ar ôl i chi sicrhau bod eich plant yn cael cyfle i fod yn rhan o’r arddangosfa arbennig hon – y cyntaf o’i math yn Wrecsam.
Dyma farn rhai o’r ymwelwyr:
GWYCH! Mae hyn yn ANHYGOEL! Am le ardderchog i blant ei brofi a darllen amdano! Roedd y gweithiwr cefnogi chwarae yn barod i helpu, yn llawn brwdfrydedd ac anogaeth! Am arddangosfa wych! Diolch Tŷ Pawb!
Newydd alw heibio’r ardal chwarae-gwaith i blant gydag eithaf tipyn o blant rhwng 7 mis a 4 mlwydd oed. Roedd yn ardal ardderchog ac wedi’i dylunio’n grefftus i’r plant allu defnyddio eu dychymyg a chael gwared ar ychydig o’r egni sydd ganddynt. Buaswn yn argymell yr arddangosfa yn fawr x
Roeddem wrth ein boddau. Mae’n arddangosfa wych i blant. Roedd fy mhlentyn i wrth ei fodd / bodd yn chwarae ar y sleidiau llorweddol a thyllu yn y tywod.
Rydym wedi ymweld â’r arddangosfa dair gwaith hyd yma. Rydym wir wedi mwynhau. X
Mae fy merch wrth ei bodd â’r wal sialc a neidio ar y mat. Roedd wrth ei bodd ei bod wedi gallu chwarae ar y polyn gorsaf dân am y tro cyntaf, gydag ychydig o gymorth gan un o’r gweithwyr cefnogi chwarae. Mae’n ardal wych.
Mae’r arddangosfa wedi’i hariannu gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Chelfyddydau a Busnes Cymru Noddwyd gan y cwmni o Wrecsam, Grosvenor ApTec Ltd
Os ydym ni’n cael setliad gwael, bydd yn rhaid i ni ystyried toriadau pellach. Dweud eich dweud.
DWEUD EICH DWEUD