Wrth i’w gyfnod fel Maer Wrecsam ddirwyn i ben, cawsom sgwrs gyda’r Cynghorydd Rob Walsh i edrych yn ôl dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Dyma rannu rhai o feddyliau Maer Wrecsam cyn iddo orffen yn ei swydd…
Faint ydych chi wedi mwynhau eich cyfnod fel Maer Wrecsam?
Y fraint fwyaf yn fy mywyd oedd bod yn Faer Wrecsam. Mae cael fy newis i fod yn brif ddinesydd fy nhref enedigol yn gwireddu breuddwyd i mi ac yn rhywbeth y byddaf yn ei drysori am byth. Rwy’n edrych ar y bwrdd yn Neuadd y Dref a gweld enwau’r rhai a fu’n Faer yn y gorffennol, a’r lluniau ar wal siambr y cyngor; mae ymuno â nhw yn fraint o’r mwyaf.
Beth yw rhai o’r pethau rydych chi’n fwyaf balch ohonyn nhw yn ystod eich cyfnod fel Maer?
Bu fy nhymor fel Maer yn ddau gyfnod cwbl wahanol. Rwy’n hynod falch o’r holl digwyddiadau y gwnes i eu mynychu yn ystod y flwyddyn gyntaf a’r holl bobl rwyf wedi eu cyfarfod. Yr hyn rwyf wedi’i fwynhau fwyaf yw bod yn driw i mi fy hun ac mae hynny’n golygu llawer i’r nifer o drigolion y bues i’n ffodus i’w cyfarfod. Bu’r ail flwyddyn yn anodd oherwydd y cyfyngiadau, ond rwyf wedi bod yn falch o’r ffordd rwyf wedi parhau yn y rôl ac addasu mewn ‘ffordd rithiol’. Serch hynny, mae’r gwir brofiad o fod yn faer yn golygu cwrdd â phobl, a gwneud ail flwyddyn oedd yr unig ddewis, fel arall, byddai fy olynydd wedi colli’r cyfle i wneud hynny.
Dewch i wybod am y newidiadau yn y cyfyngiadau Covid-19 yng Nghymru.
Pa mor heriol oedd pandemig Covid-19 i chi a sut wnaeth hyn effeithio ar eich dyletswyddau?
Yn y bôn, daeth y rhan fwyaf o fy nyletswyddau i ben. Wedi dweud hynny, heb y pandemig byddai fy nghyfnod fel Maer wedi dod i ben 12 mis yn ôl. Roeddwn yno i lenwi’r bwlch er mwyn sicrhau y bydd y Maer nesaf (Cyng. Ronnie Prince) yn mwynhau ei flwyddyn haeddiannol fel maer. Bu’n rhaid canslo’r rhan fwyaf o fy nyletswyddau, neu cawsant eu gwneud yn ddigwyddiadau newydd ar-lein. Rwy’n falch o’r ffordd rwyf wedi addasu ond does dim yn well na mynychu digwyddiadau yn y cnawd a chwrdd ag aelodau o’r cyhoedd.
Rhoddwyd cryn dipyn o sylw i’r cadwyni papur y gwnaethoch eu gwisgo’n ddiweddar; allwch chi ein hatgoffa sut y digwyddodd hynny?
Oherwydd y pandemig, roedd yn golygu na allwn wisgo’r cadwyni maerol heb gael aelod o staff y cyngor gyda mi. Gan fod disgwyl i mi nawr Gadeirio cyfarfodydd y cyngor o fy nghartref, daeth diwedd ar y traddodiad o wisgo’r cadwyni ar gyfer cyfarfodydd. I gynnal y traddodiad, meddyliais y buaswn yn gofyn i ddisgyblion Ysgol Park CP yn Llai (fy ward i) wneud cadwen debyg allan o bapur. Meddyliais y byddai hyn yn ffordd dda i gynnal y traddodiad gan fod rhaid cynnal cyfarfodydd a rhai digwyddiadau eraill yn rhithiol. Rwy’n ddiolchgar i ddisgyblion Ysgol Park CP am eu cadwen wych. Mae wedi caniatáu i mi barhau gyda fy hunaniaeth fel maer. Rwy’n gobeithio y gall y Maer nesaf ailddechrau gwisgo’r gwir gadwyni yn gyhoeddus yn fuan iawn.
Diolch i’r drefn, mae’r cyfyngiadau’n parhau i gael eu llacio, ond wrth edrych yn ôl mae’n siŵr eich bod yn falch iawn gyda’r ffordd mae pobl Wrecsam wedi llwyddo i weithio drwy gyfnod mor heriol?
Rwy’n hynod o falch o’r ffordd mae trigolion Wrecsam wedi ymdopi yn ystod y pandemig hwn. Mae’r dref a’i chymunedau’n gymdeithasol iawn, felly mae’n siŵr fod torri’r cysylltiad cymdeithasol hwnnw wedi bod yn anodd iawn i bawb. Yn bersonol, bu’r flwyddyn ddiwethaf yn heriol iawn ac rwy’n dyheu am gael dychwelydd at ryngweithio cymdeithasol. Er hyn, er gwaethaf y rhwystredigaethau, mae trigolion Wrecsam wedi bod yn gryf iawn ac wedi bodloni gyda’r cyfyngiadau gan eu bod yn gwybod mai dyma oedd y peth iawn i’w wneud. Mae nifer wedi dioddef poen meddwl aruthrol, ond fe wnaethon nhw flaenoriaethu lles y boblogaeth. Rwyf hefyd yn cydymdeimlo’n fawr â holl deuluoedd y rhai a gollodd eu bywydau o ganlyniad i Covid-19.
Mae’r buddsoddiad a ddaeth o Hollywood i Glwb Pêl-droed Wrecsam yn sicr wedi bod yn destun siarad i lawer o bobl…a ydych chi wedi eich cyffroi am ddyfodol Wrecsam?
Rydw i’n llawn cyffro. Y tro cyntaf y gwelais i’r newyddion fod Ryan Reynolds a Rob McElhenney yn prynu Clwb Pêl-droed Wrecsam, meddyliais mai jôc oedd y cyfan. Ond maen nhw o ddifri ac mae’r cefnogwyr rwy’n eu hadnabod – sydd wedi dilyn yr hanes yn fanylach na mi – yn canu clodydd y ddau ŵr a’u hymroddiad tuag at y dref a’r clwb. Buaswn wedi bod wrth fy modd cyfarfod â’r ddau pan fyddan nhw’n ymweld â Wrecsam, ond gwaith i’r Maer nesaf fydd hynny. Mae hyn yn sicr wedi rhoi Wrecsam ar y map ac mae’r dyfodol yn edrych yn fwy addawol na’r adeg hon y llynedd. Croesi bysedd.
A oes gennych unrhyw gyngor ar gyfer y Maer newydd?
Mae Ronnie yn gynghorydd profiadol felly mae ganddo eisoes y rhinweddau sydd eu hangen i fod yn Faer llwyddiannus. Fy unig gyngor fyddai: 1. Cadw’n driw i chi’ch hun. 2. Gwnewch bob ymdrech i siarad gyda chymaint o bobl â phosibl. Bydd llawer o bobl yn rhy swil i fynd at y Maer i siarad, ond drwy fynd atyn nhw byddwch yn aml yn llonni eu diwrnod. 3. Byddwch yn ofalus o’r hyn rydych yn ei fwyta. Mae bwyd yn rhan ganolog o sawl digwyddiad fel maer ac mae sawl Maer yn y gorffennol wedi syrthio i’r trap o fagu pwysau yn ystod eu cyfnod yn y swydd. Hoffwn ddweud na wnes i syrthio i’r trap hwnnw, ond yn anffodus mae’n debyg mai fi oedd y gwaethaf am beidio ag osgoi bwyd.
Unrhyw eiriau eraill i gloi ar gyfer trigolion Wrecsam?
Diolch o galon i chi am y caredigrwydd rydych wedi ei ddangos yn ystod fy nghyfnod. Rwyf wedi gweld cymaint o ewyllys da ym mhob digwyddiad rwyf wedi eu mynychu. Rwyf wedi dysgu llawer iawn hefyd. Mae Wrecsam yn llawn o arwyr nad ydyn nhw’n derbyn clod, sy’n ymroi cymaint o’u hamser (yn aml yn wirfoddol) er mwyn gwella bywydau pobl eraill. Rwy’n hynod o falch mod i wedi cael y cyfle i weld Wrecsam ar ei gorau – clwstwr o gymunedau gwych, caredig a gofalgar.
Y RHEOLAU COVID DIWEDDARAF