Mewn seremoni a gynhaliwyd gan Mudiad Meithrin yn Aberaeron yn ddiweddar, enillodd Cylch Meithrin Min y Ddôl (Cefn Mawr) y wobr ‘Y gorau yng ngogledd ddwyrain Cymru’.
Dywedodd Pennaeth Ysgol Min y Ddôl, Claire Rayner: “Mae pob aelod o staff yng Nghylch Meithrin Min y Ddôl yn ymroddedig i sicrhau’r dechrau gorau posib i blant ar eu siwrnai addysg Gymraeg.
“Mae eu hymagwedd gyfannol tuag at sicrhau amgylchedd lle caiff pob plentyn ei gynnwys, ei werthfawrogi,, ei herio a’i ddathlu wedi arwain at ddarpariaeth sy’n haeddiannol o wobr sy’n cydnabod hyn oll.
“Rydym yn hynod o ddiolchgar i’r pwyllgor, ein rhieni a’n plant am wneud Cylch Meithrin Min y Ddôl yn gymaint o lwyddiant.
“Mae’n galonogol gweld ein darpariaeth yn ffynnu gyda niferoedd yn cynyddu bob blwyddyn a rhieni’n dewis addysg cyfrwng Cymraeg i’w plant.
“Mae’r llwyddiant hwn yn brawf o’u holl waith caled ac ymrwymiad”.
Ychwanegodd Rebecca Roberts, un o’r rhieni “Allwn i ddim dychmygu anfon fy mhlant i unman arall
“Mae’r awyrgylch yn y cylch yma mor ofalgar ac wedi ennyn hyder fy mhlant i ddod allan o’u cragen a datblygu i fod yn blant ifanc chwilfrydig.
“Mae fe merch wrth ei bodd yn yn mynd i’r Cylch Meithrin ac yn caru pob un aelod o staff yno.
“Mi fydd yn siomedig iawn pan fydd yn rhaid iddi fynd i’r ysgol yn llawn amser flwyddyn nesa!”
Dywedodd y Rheolwr yn Ysgol Min y Ddôl, Samantha Holman : “Rydw i’n hynod o falch o’n tîm sy’n gweithio mor galed ac yn ddiflino i sicrhau bod Cylch Meithrin Min y Ddôl bob amser y gorau y gall fod, ac mae derbyn yr anrhydedd hon yn brawf o’r gwaith da sy’n cael ei wneud .
“Os hoffech ddysgu mwy am pam bod mwy a mwy o bobl yn rhoi’r dechrau dwyieithog gorau i’w plant drwy ddewis ein Cylch Meithrin Cymraeg, cysylltwch â mi ar 07707470152 neu anfonwch e-bost at cylchmeithrinminyddol@outlook.com.”
Dywedodd yr Aelod Arweiniol Addysg, y Cynghorydd Phil Wynn: “Da iawn bawb sy’n rhan o hyn”.
Pennaeth Ysgol Min y Ddol Claire Rayner 01978 820903 mailbox@minyddol-pri.wrexham.sch.uk
Mae rhagor o wybodaeth am fanteision addysg iaith Gymraeg hefyd ar gael ar ein gwefan website