Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Y Gwasanaeth Tân ac Achub yn cyhoeddi rhybudd o risg uwch o danau glaswellt yn ystod tywydd poeth a sych
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Y Gwasanaeth Tân ac Achub yn cyhoeddi rhybudd o risg uwch o danau glaswellt yn ystod tywydd poeth a sych
Arall

Y Gwasanaeth Tân ac Achub yn cyhoeddi rhybudd o risg uwch o danau glaswellt yn ystod tywydd poeth a sych

Diweddarwyd diwethaf: Gorffennaf 15, 2022 4:23 pm
Rhannu
Darllen 3 funud
Y Gwasanaeth Tân ac Achub yn cyhoeddi rhybudd o risg uwch o danau glaswellt yn ystod tywydd poeth a sych
RHANNU
Erthygl Gwadd

Yn sgil cyhoeddi Rhybudd Ambr Gwres Eithafol gan y Swyddfa Dywydd ar gyfer rhannau o Gymru a’r diffyg cyfnodau o law diweddar, mae’r Gwasanaethau Tân ac Achub yng Nghymru ac asianteithiau partneriaeth yn gofyn i bobl fod yn ymwybodol o’r risg uwch o danau glaswellt a thanau eraill yn ystod y cyfnod hwn o dywydd sych a phoeth.

Gwasanawth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, Peter Greenslade, Cadeirydd Ymgyrch Dawns Glaw  “Rydym ar hyn o bryd yn profi tywydd poeth a sych ac mae’r rhagolygon ar gyfer y penwythnos nesaf a’r wythnos nesaf yn rhagweld y bydd yn mynd yn boethach fyth. Rwy, felly, yn annog pobl i fod yn hynod ofalus a bod yn ymwybodol o’r risg uwch o danau glaswellt.

Os ydych chi’n cynllunio barbeciw, rhaid i chi sicrhau bod y barbeciw yn cael ei osod ar arwyneb gwastad, fydd ddim yn mynd ar dân ei hun, ac ymhell i ffwrdd o sied, coed neu lwyni.

Os ydych yn bwriadu llosgi sbwriel, ailystyriwch hyn. Meddyliwch, a allwch chi fynd ag ef i safle gwaredu gwastraff yr awdurdod lleol yn lle hynny?

Mae’n anghyfreithlon llosgi glaswellt yr adeg hon o’r flwyddyn ac os byddwch yn dod ar draws rhywun yn llosgi glaswelltir gallwch roi gwybod amdanynt, yn ddienw, i Crimestoppers drwy ffonio 0800 555111, neu fynd i crimestoppers-uk.org.

Os yw’n argyfwng, rhaid i chi bob amser ffonio 999.

Gadewch i ni i gyd fwynhau’r tywydd godidog hwn yn gyfrifol ac yn ddiogel. Trwy ddilyn y cyngor uchod, byddwch yn lleihau’r risg o dân ac yn lleihau’r effaith ar ein criwiau tân, ein cymunedau a’r amgylchedd.”

Dywedodd Hannah Blythyn AS, y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol:
“Bydd llawer ohonom yn meddwl am ymweld â chefn gwlad yn ystod tywydd poeth y penwythnos hwn. Mae’n bwysig iawn cofio, fodd bynnag, mewn amodau sych a phoeth fel hyn y gall hyd yn oed sigarét neu botel wydr sy’n cael ei thaflu i ffwrdd gynnau tân mawr a dinistriol. Byddwn yn annog pobl i wrando ar gyngor ein gwasanaethau brys, i wneud yr hyn a allant i gadw eu hunain ac eraill yn ddiogel, ac i gadw cefn gwlad Cymru yn brydferth.”

Am fwy o wybodaeth am sut i fwynhau’r awyr agored yn ddiogel ewch i https://www.tancgc.gov.uk/cym/diogelwch/eich-gardd-ar-awyr-agored/

Rhannu
Erthygl flaenorol Tŷ Pawb ‘yn ail falch’ wrth i Amgueddfa a Gerddi Horniman ennill Amgueddfa’r Flwyddyn y Gronfa Gelf Tŷ Pawb ‘yn ail falch’ wrth i Amgueddfa a Gerddi Horniman ennill Amgueddfa’r Flwyddyn y Gronfa Gelf
Erthygl nesaf Summer of Fun logo Dechreuwch yr Haf Llawn Hwyl gydag aelodaeth am ddim i’r gampfa

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mayor with the Registrar team
Ystafell seremoni Neuadd y Dref yn ailagor yn swyddogol ar ôl ei hadnewyddu
Arall Pobl a lle Y cyngor
Medi 4, 2026
Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027
Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027
Busnes ac addysg Y cyngor
Medi 4, 2026
Football park and ride
Wrecsam v Burnley – tynnwch y straen allan o barcio ar ddiwrnod y gêm
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Medi 4, 2026
Penley Hospital
Ymgynghoriad ar ddyfodol gwasanaethau yn Ysbyty Llannerch Banna
Arall Pobl a lle
Medi 3, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Yorke Street
ArallPobl a lle

Ydych chi’n gyrru i ganol dinas Wrecsam? Parciwch yn gyfrifol a dilynwch reolau traffig o amgylch y Stryd Fawr

Medi 1, 2026
Blue emergency services light
ArallPobl a lle

Codi baner 999 i gefnogi Diwrnod y Gwasanaethau Brys

Medi 1, 2026
Football park and ride
ArallPobl a lle

Wrecsam v Dinas Birmingham – teithio fforddiadwy a rhwydd

Awst 28, 2026
Mayor at the Welsh Blood Service donation clinic
ArallPobl a lle

Maer yn rhoi gwaed i gefnogi ymgyrch rhoi

Awst 26, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English