Summer of Fun logo

Ydych chi rhwng 17 a 24 oed?

Ydych chi’n byw wrth Blas Madoc?

Os mai ‘ydw’ oedd eich ateb i’r ddau, gallech fod yn gymwys am aelodaeth am ddim i’r gampfa dros yr haf.

Mae aelodaeth ym Mhlas Madoc yn golygu mynediad i’r pwll a’r gampfa i wella eich ffitrwydd dros wyliau’r haf. Gallwch ddechrau eich aelodaeth am ddim rŵan a bydd yn ddilys tan 30 Medi.

Adnewyddwch eich casgliadau bin gwyrdd ar gyfer 2022/23 nawr – bydd y casgliadau’n dechrau ym mis Medi!

Y cyfan rydych chi ei angen i weld a ydych chi’n gymwys yw eich cod post. Felly, os ydych chi rhwng 17 a 24 oed, ffoniwch neu anfonwch neges i wirio a ydych chi’n gymwys am aelodaeth am ddim.

Gallwch gysylltu â Chanolfan Hamdden Plas Madoc ar 01978 821600 neu ar Facebook @PlasMadocLeisureCentre

Mae aelodaeth am ddim i’r gampfa hefyd ar gael dros yr haf i rai rhwng 17 a 24 oed sy’n byw ger Canolfan Gwyn Evans a Stadiwm Queensway.

Mae’r Haf Llawn Hwyl yn rhaglen sy’n cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru, sy’n darparu gweithgareddau am ddim i blant a phobl ifanc 0–25 oed. Yn Wrecsam, mae llwyth o bethau i chi eu mwynhau, felly cadwch olwg ar ein tudalennau ar y cyfryngau cymdeithasol dros wyliau’r haf:

Facebook: @cyngorwrecsam
Twitter: @cbswrecsam

Talu i wagio eich bin gwyrdd 2022/23.

TALU NAWR