Daeth defnyddwyr rheolaidd a chyn-ddefnyddwyr, aelodau, staff a thenantiaid busnes lleol i gyd at ei gilydd i ddathlu’r hyn y mae Canolfan Adnoddau Parc Llai wedi’i wneud er lles y gymuned dros yr 20 mlynedd diwethaf.
Treuliwyd y noson yn rhannu atgofion am yr hyn y mae’r ganolfan wedi’i gynnig dros y ddau ddegawd diwethaf, gan gynnwys y cyn-ddysgwr Peter Jones a ddaeth draw i sesiwn crefft siwgr ac aeth ymlaen i wneud busnes allan o bobi cacennau ar gyfer dathliadau ac a ymddeolodd yn ddiweddar.
Dywedodd y Cynghorydd Beverly Parry-Jones, yr Aelod Arweiniol sydd â chyfrifoldeb dros lyfrgelloedd a chanolfannau adnoddau: “Hyfryd oedd clywed straeon defnyddwyr y canolfannau yn y digwyddiad hwn. Gwnaeth arddangosiadau o waith y dysgwyr ar gyrsiau Addysg Oedolion Cymru sy’n cael eu rhedeg o’r ganolfan argraff fawr arnaf, yn enwedig gwisg gyfnod menywod lawn a wnaed â llaw yn un o’r dosbarthiadau. Da iawn i bawb a oedd yn rhan o wneud hon yn noson wych o ddathlu.”
Dywedodd Sarah Smallwood-Smith, gweithiwr cymorth y ganolfan yng Nghanolfan Adnoddau Parc Llai: “Hoffwn ddiolch i bawb am eu cymorth a’u cefnogaeth i wneud hon yn noson mor wych, fe wnaeth wir arddangos yr hyn y mae’r ganolfan yn ei gynnig ac yn ei gynrychioli i’r gymuned.”
Cynhaliwyd raffl ar y noson hefyd, a chodwyd £200 ar gyfer Hosbis Tŷ’r Eos.