Yr wythnos ddiwethaf, daeth y naturiaethwr Iolo Williams i Ysgol Cae’r Gwenyn i agor estyniad newydd yr ysgol yn swyddogol. Mae’r estyniad wedi darparu ystafelloedd dosbarth, swyddfeydd, ystafelloedd a chyfleusterau storio ychwanegol.
Fe arferai’r ysgol ar Ffordd y Tywysog Siarl gael ei galw’n Ganolfan Blynyddoedd Cynnar Wrecsam, ond bellach ei enw yw Ysgol Cae’r Gwenyn.
Wrth agor yr estyniad newydd, dywedodd Iolo Williams …”Yr hyn ‘dwi wedi’i glywed yw ei bod hi’n ysgol arbennig iawn…ac mae’r hyn rydych wedi’i wneud yma yn codi calon, rydych wedi cyfuno dau beth sydd yn bwysig iawn i mi wrth gyfuno enw Cymraeg yr ysgol a bywyd gwyllt…pan gerddais i mewn cefais wybod bod gennych chi fywyd gwyllt yma eisoes, dwi’n meddwl bod hynny’n wych gan fod rhaid i ysgolion fel hyn a ni fel unigolion wneud popeth y gallwn ni i helpu ein bywyd gwyllt, yn enwedig ein gwenyn…dwi wir wrth fy modd i allu dod yma heddiw ac mae’n anrhydedd i mi eich bod wedi gofyn i mi ei agor.”
Dywedodd Rhian Hughes y Pennaeth: “Breuddwyd ffŵl oedd cael Iolo yma i agor estyniad newydd ein hysgol a lansio ein enw newydd, felly mae hi wir hyfryd ei fod o yma heddiw. “Rydym i’n falch iawn o’n hysgol a’r hyn rydym wedi’i gyflawni. “Mae gennym ardal dad-ddofi tir yn ardd yr ysgol a greodd argraff ar Iolo ac roedd o’n awyddus i fynd i grwydro. “Rydym ni’n ddiolchgar iawn i Iolo am dreulio’r amser yn dod i ymweld â ni. Roedd yn golygu ei fod yn ddathliad arbennig iawn.”
Dywedodd Cadeirydd Llywodraethwyr Ysgol Cae’r Gwenyn, Jane Howells – “Rydym ni’n ysgol hyfryd, a bellach mae gennym ni estyniad newydd ac enw gwych. “Mae gennym ni ddisgyblion, staff a rhieni rhagorol ac mae’n union fel teulu yma.”
Dywedodd y Cynghorydd Phil Wynn, Aelod Arweiniol Addysg: “Fe hoffwn i ddiolch i Iolo Williams am fynychu i agor estyniad ac ardal bywyd gwyllt Ysgol Cae’r Gwenyn yn swyddogol. Bydd estyniad a gardd yr ysgol o fudd mawr i ddisgyblion am sawl blwyddyn i ddod.
Talu i wagio eich bin gwyrdd 2022/23.
TALU NAWR