Mae gwaith wedi dechrau ar ddatblygiad tai i adeiladu cartrefi cyntaf y cyngor yn Wrecsam ers 1991.
Rydym yn cydweithio â datblygwyr Liberty i adeiladu cartrefi newydd y cyngor ar safle’r hen gartref gofal preswyl Nant Silyn, ym Mhont Wen, Parc Caia.
Bydd 14 eiddo newydd, gan gynnwys wyth fflat, pedwar tŷ dwy ystafell wely, un byngalo un ystafell wely i unigolyn hŷn ac un byngalo dwy ystafell wely wedi’i addasu’n llawn.
DERBYNIWCH Y WYBODAETH DDIWEDDARAF – YMAELODWCH I GAEL EIN PRIF STRAEON.
Dechreuodd y gwaith ar y safle yn gynharach y gaeaf hwn, a disgwylir ei gwblhau yn 2020.
“Wrth ein boddau”
Dywedodd y Cyng. David Griffiths, Aelod Arweiniol Tai yng Nghyngor Wrecsam, bod yr awdurdod yn falch o adeiladu’r datblygiad tai cymdeithasol cyntaf ers bron i 30 mlynedd.
Dywedodd y Cyng. Griffiths: “Rydym wrth ein boddau ein bod yn darparu eiddo cymdeithasol newydd yn Wrecsam.
“Dyma fydd datblygiad cyntaf y cyngor ers 1991, ac rydym yn falch iawn ein bod yn gallu darparu’r tai newydd ar y safle.
“Bydd y datblygiad yn trawsnewid safle’r hen gartref San Silyn, a gaeodd ei drysau bedair blynedd yn ôl, i gymuned newydd ac rydym yn falch ein bod yn cydweithio â Liberty ar y datblygiad newydd.
“Bydd y ddarpariaeth o eiddo newydd y cyngor yn cyd-fynd â’n gwaith parhaus o dan Safon Ansawdd Tai Cymru, sydd wedi gweld cannoedd o eiddo’r cyngor yn cael eu moderneiddio a’u cynnal i safonau’r 21ain ganrif.”
Mae cynllun Nant Silyn yn ffurfio’r datblygiad tai cymdeithasol cyntaf sydd wedi’i glustnodi ar gyfer Wrecsam, gyda datblygiad arall ym Mhlas Madoc yn disgwyl caniatâd cynllunio.
Dywedodd y Cynghorydd Mark Pritchard, Arweinydd y Cyngor: “Mae hwn yn brosiect uchelgeisiol ar gyfer Cyngor Wrecsam, a bydd yn darparu cartrefi gydol oes ar gyfer ein tenantiaid
“Rwy’n falch iawn ein bod wedi gallu cyrraedd pwynt lle rydym yn adeiladu cartrefi newydd y cyngor, ac ein bod yn gwybod bod yr eiddo newydd yn cyfrannu tuag at gyflenwi anghenion tai rhai o bobl fwyaf diamddiffyn yn ein cymunedau.”
“Edrych ymlaen at ddarparu’r cartrefi sydd wir eu hangen”
Dywedodd Ray Jones, Rheolwr Gyfarwyddwr Grŵp Liberty, y bydd y prosiect yn darparu tai cymdeithasol sydd wir eu hangen yn y dref.
“Bydd adfywio’r safleoedd tir llwyd yn creu mannau byw modern a deniadol mewn ardal sy’n llawn harddwch naturiol.
“Rydym yn falch o weithio gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam ar y prosiect cyffrous hwn, ac edrychwn ymlaen ar ddarparu’r cartrefi sydd wir eu hangen.”
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.
COFRESTRWCH FI RŴAN