Heddiw yw diwrnod cyntaf y gweithredu diwydiannol yn Wrecsam gan yr Undeb Llafur, Unite.
Rydym wedi adolygu adnoddau ac rydym yn falch o gadarnhau ein bod yn blaenoriaethu casgliadau gwastraff bin du ar hyd y llwybrau sydd wedi’u cynllunio yn ardaloedd cymunedol lleol e.e. Plas Madoc, Rhos, Johnstown a Phenycae.
Yn anffodus, mae’n annhebygol y byddwn ni’n gallu gwagio biniau gwyrdd neu wastraff ailgylchu sych gan nad oes gennym ddigon o adnoddau.
O ran cynnal a chadw tiroedd, mae ein tractorau mawr allan yn torri gwair ac mae ein gweithwyr yn gweithio yn ardal y gogledd o amgylch Coedpoeth.
O ran glanhau strydoedd yng nghanol y dref, mae gweithwyr ein sifft bore allan yn gweithio ar hyn o bryd. Fe fydd y sifft yn newid tua amser cinio a byddwn yn adolygu gweithgareddau ar ôl hyn.
Mae ein criwiau priffyrdd i gyd allan heddiw yn gwneud gwaith adweithiol, yn cynnwys ein lorïau gylïau a pheiriannau ysgubo sydd yn gweithio yn unol â’u hamserlen.
Nid oes yna unrhyw oblygiadau i’n Mynwentydd ac Amlosgfa, felly mae’r rhain yn gweithredu fel yr arfer.
Sut fydd Wrecsam yn teimlo effaith y gweithredu diwydiannol ar 4 Medi? – Newyddion Cyngor Wrecsam