Oes gennych blentyn neu blant yn yr ysgol? Ydi eich sefyllfa ariannol wedi newid?
Os felly, darllenwch ymlaen i ganfod sut gallech chi gael mynediad at ragor o help ariannol i’ch teulu.
Os oes gennych chi blentyn yn yr ysgol gynradd neu’r ysgol uwchradd a’ch bod chi ar incwm isel, sicrhewch eich bod chi’n llenwi’r ffurflen prydau ysgol am ddim ar ein gwefan. Nid dim ond ar gyfer prydau ysgol mae’r cais hwn. Os bydd eich cais yn llwyddiannus, mae’n bosibl y byddwch chi’n gallu cael help tuag at gostau gwisg ysgol ac offer (Grant Datblygu Disgyblion), gwersi cerddoriaeth am gyfradd is neu rhad ac am ddim, teithiau ysgol am bris gostyngol a gweithgareddau tu allan i’r ysgol eraill a help tuag at brydau ysgol yn ystod gwyliau’r ysgol (tan ddiwedd mis Mawrth 2023).
Meddai’r Cyng. Phil Wynn, Aelod Arweiniol Addysg: “Os ydych chi’n credu y gallech chi fod yn gymwys i gael Prydau Ysgol Am Ddim, rwy’n eich annog i fynd i’n gwefan a gwneud cais. Os ydi’ch cais yn llwyddiannus mae’n bosibl y bydd cymorth ariannol ychwanegol ar gael i chi, sy’n gam pwysig wrth atal arian rhag rhwystro addysg plant. Rydym yn annog unrhyw un sy’n teimlo eu bod yn gymwys i gysylltu â ni i gefnogi rhieni a dysgwyr trwy’r flwyddyn ysgol.”
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am help ariannol sydd ar gael i’ch plentyn tra maen nhw yn yr ysgol, gallwch gysylltu â ni ar freeschoolmeals@wrexham.gov.uk.
Talu i wagio eich bin gwyrdd 2022/23.
TALU NAWR